Cyhuddo dau blismon o ddwyn

Police (generic) Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bydd y ddau blismon yn ymddangos o flaen llys ynadon fis nesaf

Mae dau swyddog gyda Heddlu'r de wedi eu cyhuddo o ddwyn.

Mae'r heddlu yn dweud bod y ddau ddyn wedi eu harestio yn dilyn ymchwiliad gyda'i hadran safonau proffesiynol.

45 oed yw un o'r dynion tra bod y llall yn 43.

Mae disgwyl i'r ddau ymddangos o flaen llys ynadon Caerdydd fis nesaf.

Mae Comisiwn Annibynnol yr heddlu wedi cael gwybod am yr ymchwiliad.