Addysg ariannol yn amrywio o un ysgol i'r llall

Piggy bank with £50 note Image copyright PA
Image caption Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn meddwl y bydd deddf newydd yn gwneud gwahaniaeth

Mae nifer yr oriau y mae ysgolion yn dysgu am faterion ariannol yn amrywio o un ysgol i'r llall yn ôl un Aelod Cynulliad.

Fe ddywed Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru, bod rhai ysgolion yn gwneud 180 o oriau ar y pwnc dros gyfnod o dair blynedd tra bod eraill yn gwneud y nesa' peth i ddim.

Ddydd Llun mae cyfnod ymgynghori yn cychwyn er mwyn hybu cyfraith newydd sydd yn cael ei chynnig gan Ms Jenkins.

Nod y Mesur Llythrennedd Ariannol yw gwella'r hyn sydd yn cael ei ddysgu mewn ysgolion ynglŷn â materion ariannol.

Mae'r mesur hefyd yn rhoi mwy o bwerau i gynghorau stopio busnesau rhag rhoi benthyg arian i bobl mewn ffordd anfoesol. Amcan arall fyddai helpu unigolion i ddelio gyda'u harian yn well.

Mae Ms Jenkins yn dweud y dylai materion ariannol fod yn "rhan hanfodol o'r profiad o ddysgu, yn hytrach na rhywbeth sydd yn cael ei ychwanegu wedyn".

Oriau yn amrywio

Ond mae gweinidogion y llywodraeth yn dweud eu bod nhw'n "gweithio'n galed" yn y maes yma ac yn teimlo mai mwy o fiwrocratiaeth fyddai hyn. Nid dyma'r ateb meddan nhw.

Mi ofynnodd yr AC mewn cais o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth faint o oriau oedd yn cael eu neilltuo i'r pwnc. Mi gafodd hi ateb gan dros 80 o ysgolion uwchradd.

270 awr oedd y mwyaf o oriau yr oedd un ysgol yn dysgu am faterion ariannol. Roedd y disgyblion yn yr ysgol yma yn dysgu am y pwnc nes eu bod nhw'n 16 oed. Chwe awr oedd y ffigwr isaf.

"Mae yna wahaniaeth mawr yn yr hyn sydd yn cael ei ddarparu. Y ffordd orau 'dw i'n credu i ddelio gyda hynny yw gwneud addysg ariannol yn rhan fwy blaenllaw o ddysgu," meddai Ms Jenkins.

Ychwanegodd: "Mae gan y Cynulliad y pŵer i basio'r mesur yma a gwneud gwahaniaeth go iawn er mwyn helpu pobl Cymru."

Mewn datganiad mi ddywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwneud lot o waith yn y maes yma yn barod.

"Mwy o fiwrocratiaeth"

"Mae addysgu am faterion ariannol i bobl ifanc rhwng 7 a 16 wedi bod yn rhan o gwricwlwm yr ysgol yng Nghymru ers 2008 a hynny trwy fathemateg, addysg bersonol a chymdeithasol a'r Byd Gwaith a gyrfaoedd.

"Mae fframwaith newydd llythrennedd a rhifedd, sydd yn ofyniad statudol yn y cwricwlwm ers mis Medi 2013, hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd addysgu am faterion ariannol.

"Mae'r fframwaith yn golygu bod yna sgiliau sydd angen eu dysgu er mwyn delio gydag arian ymhob blwyddyn o'r dosbarth derbyn tan blwyddyn 9.

"Rydyn ni yn gweithio'n galed i wella yn y maes yma ond dydyn ni ddim yn meddwl mai mesur newydd a mwy o fiwrocratiaeth yw'r ateb."

Straeon perthnasol