Abertawe 1-2 West Brom

Stephane Sessegnon scores West Brom's equaliser against Swansea Image copyright Huw Evans picture agency

Abertawe 1-2 West Brom

Colli adref wnaeth Abertawe o 2 gol i 1 yn erbyn West Brom.

Abertawe aeth a hi yn yr hanner cyntaf gan sgorio yr unig gol yn yr hanner cyntaf gan Roland Lamah.

Ond yn yr ail hanner mi oedd West Brom yn dîm gwahanol ac mi daro'n nhw'n nol. Daeth bwled o ergyd o 25 llath gan Stephane Sessegnon a'r tîm yn gyfartal.

Yna ym munudau olaf y gêm sgoriodd Youssuf Mulumbu i roi West Brom ar y blaen. Dyma fuddugoliaeth gyntaf West Brom gyda'i rheolwr newydd, Pepe Mel.

Roedd hwn yn ganlyniad siomedig iawn i'r Elyrch sydd yn ei gadael yn hofran yn agos iawn i waelod yr uwchgynghrair.