Geraint Thomas allan o ras Paris Nice

Geraint Thomas Image copyright Getty Images

Mae Geraint Thomas wedi cael ei orfodi i roi'r gorau i gystadlu yn ras Paris Nice.

Er bod y Cymro yn yr ail safle ar ddechrau bore dydd Sadwrn mi gafodd ddamwain pan oedd yn mynd lawr allt. Mi oedd yn un o dri wnaeth daro ffens.

Mi aeth yn syth nol ar ei feic ond mi oedd wedi colli saith eiliad. Mi adawodd hynny fo yn 38ain safle yn y ras a gydag anafiadau.

Mae disgwyl iddo gystadlu unwaith eto yn ras un diwrnod Milan San Remo penwythnos nesaf.

Straeon perthnasol