Pedair injan dân ar fferm

Mae diffoddwyr yn ceisio taclo tân mawr ar fferm yn ardal Pentyrch yng ngogledd Caerdydd.

Fe ddywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi gyrru pedair injan dân i'r fferm.

Ychwanegodd llefarydd bod y tân wedi gafael yn un o adeiladau'r fferm.

Mae gan y gwasanaeth ddau beiriant dŵr ar y safle yn ogystal.