Refferendwm: Chwe mis i fynd

fflagiau'r DU a'r Alban

Chwe mis cyn refferendwm yr Alban ar annibyniaeth, bu BBC Cymru yn holi barn Albanwyr oedd yng Nglyn-nedd yn mwynhau penwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac un Albanwr sy'n byw yng Nghymru ers blynyddoedd.

Ond beth am y berthynas arbennig rhwng Yr Alban a'r Deyrnas Unedig? I rai o selogion tîm rygbi Hawick - oedd yng Nghymru i ddathlu chwarter canrif o gysylltiad gyda chlwb Glyn-nedd - mae hi'n berthynas bwysig.

Dywedodd un bod ei hunaniaeth yn Albanaidd a Phrydeinig: "Yn gyntaf oll, dw i'n bersonol yn dod o dref Hawick... Dwi'n Albanwr balch iawn, ond dwi'n un o'r rheiny sy'n falch iawn o ddod o Brydain hefyd.

"Dwi'n hynod Albanaidd, yn wladgarol iawn, ond yn ystod y Gemau Olympaidd, er enghraifft, dw i'n cefnogi Prydain... Does 'na ddim byd yn bod ar hynny."

'Sais ydw i'

Roedd un o'i gyfeillion yn dweud na fyddai o'n pleidleisio: "Dw i ddim yn Albanwr. Sais ydw i. Dw i'n wreiddiol o Newcastle a dydw i ddim yn teimlo ei fod o'n iawn i mi siarad dros bobl yr Alban...

"Pe byddwn i'n Albanwr, ac yn gwybod yr holl hanes... Mae'n debyg y byddwn ni'n pleidleisio 'ie'."

Mae Stuart Brown, gafodd ei eni a'i fagu y tu allan i Glasgow, wedi byw yng Nghymru ers 35 mlynedd.

Pan ddaw Medi'r 18fed, mi fydd gan bawb dros 16 oed sydd yn byw yn Yr Alban bleidlais.

Yn ôl ffigyrau'r cyfrifiad diweddaraf, mi fydd gan dros 15,000 o Gymry sydd yn byw yn Yr Alban yr hawl i fwrw pleidlais ond mae 'na bron i 800,000 o Albanwyr yn byw yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

'Yn y gwaed'

Mae Mr Brown yn un ohonyn nhw. Fydd o ddim yn cael dylanwadu ar ddyfodol gwlad ei febyd.

Fe fyddai o'n hoffi cael pleidleisio: "'Wy'n teimlo'n Albanaidd, 'wy wastad wedi ers o'n i'n fach. Ma' wastad wedi bod yn rhywbeth yn y gwaed. Mae o'r un peth i bawb o 'nheulu fi sy'n byw lan fan'na.

"Yr un peth i 'mrawd sy'n byw yng ngogledd Lloegr. Mae'n rhywbeth sydd yn y gwaed. Mae bod yn Brydeinig yn second rate. Dw i'n Albanwr, ac Albanwr fydda'i tan i fi farw."