Pwy sydd fod i dalu am drydaneiddio?

Bydd trenau fel hyn yn teithio rhwng Llundain a de Cymru
Mae amcangyfrif Llywodraeth Cymru o'r gost, sy'n rhan o achos busnes gafodd ei gyhoeddi yn 2012, yn dweud y gallai fod rhwng £309 miliwn a £463 miliwn

Mae dryswch ynglŷn â phwy sydd fod i dalu am uwchraddio darn o'r rheilffordd yn ne Cymru.

Mae Carwyn Jones yn dweud fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi cytuno i dalu am drydaneiddio'r brif linell rhwng Abertawe a'r cymoedd.

Ond mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ysgwyddo'r gost.

Mae amcangyfrif Llywodraeth Cymru o'r gost, sy'n rhan o achos busnes gafodd ei gyhoeddi yn 2012, yn dweud y gallai fod rhwng £309 miliwn a £463 miliwn.

'Heb ei ddatganoli'

Mae BBC Cymru wedi gweld nifer o lythyrau sydd wedi cael eu danfon yn ôl ac ymlaen rhwng San Steffan a Bae Caerdydd.

Mae Carwyn Jones yn dweud bod David Cameron wedi addo trydaneiddio'r rheilffordd nifer o weithiau'n gyhoeddus ond ei fod yn "pryderu'n gynyddol ynglŷn â drifft".

"Rydym wedi gwneud ein safbwynt yn glir," meddai Carwyn Jones, "ein bod ni'n fodlon gweithio gyda llywodraeth y DU ar hyn, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr ymrwymiadau sydd wedi cael eu rhoi'n gyhoeddus ar nifer o achlysuron gan y prif weinidog yn cael eu cadw."

Dywedodd mai San Steffan sy'n gyfrifol am dalu am y gwaith.

"Dydan ni heb ymrwymo i dalu," meddai, "wedi'r cwbl, dyw hwn ddim yn rhywbeth sydd wedi ei ddatganoli."

Llythyrau

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones wedi dweud ei fod "mewn sioc" ac "yn pryderu'n fawr" ar ôl clywed fod Prif Weinidog Cymru wedi galw am eglurder ynglŷn â'r sefyllfa.

Yn ôl ei swyddfa, mae nifer o lythyron gafodd eu cyfnewid yn 2012 - rhwng yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth bryd hynny, Justine Greening, a Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar y pryd, Carl Sargeant - yn profi hyn.

Mewn llythyr sydd wedi ei ddyddio i Orffennaf 13, 2012, mae Ms Greening yn canu clod "cytundeb a allai gynrychioli'r cyhoeddiad isadeiledd mwyaf sylweddol i Gymru ers lawer o flynyddoedd".

Mae'r llythyr yn dweud hefyd y bydd gwasanaethau rheilffordd y cymoedd yn cael eu cynnwys o fewn Masnachfraint Cymru a'r Gororau, sy'n dod o dan enw'r ddwy lywodraeth.

Yn ei ymateb i lythyr Ms Greening mae Mr Sargeant yn dweud ei fod yn cadarnhau "ein cytundeb, fel y mae'n cael ei gyflwyno yn eich llythyr".

Mae David Jones yn dadlau bod Llywodraeth Cymru'n gwybod yn iawn beth oedd goblygiadau'r cytundeb hwnnw.

'Cytundeb yw cytundeb'

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae beth roedd Llywodraeth Cymru'n mynd i fod yn ei wneud drwy Fasnachfraint Cymru a'r Gororau, a beth roedd llywodraeth Ei Mawrhydi'n mynd i fod yn ei wneud, yn hollol glir.

"Rydw i wedi fy syfrdanu'n llwyr nad yw ef [Carwyn Jones] wedi crybwyll yr ohebiaeth yma. Mae hwn yn dystiolaeth o gytundeb mewn termau cwbl glir.

"Roedd hwn yn gytundeb, a cytundeb yw cytundeb, ac rydym yn disgwyl iddyn nhw gadw at y cytundeb.

"Yn fy llyfr i mae hynny'n gyfystyr â chontract. Allai o ddim bod yn gliriach.

"Mae hyn yn bryderus iawn, iawn."

'Sylwadau annealladwy'

Dywedodd llefarydd ar ran prif weinidog Cymru: "Mae'r sylwadau yma yn annealladwy. Maen nhw'n mynd yn groes i sylwadau'r prif weinidog a chyn ysgrifenyddion gwladol Cymru.

"Gall pobl weld yr hyn mae llywodraeth y DU wedi ei ddweud ar y mater, ac mi allan nhw benderfynu eu hunain beth maen nhw'n feddwl am sylwadau David Jones heddiw."

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru fis Hydref, dywedodd David Cameron: "Y llywodraeth yma sy'n rhoi arian i drydaneiddio'r rheilffordd yr holl ffordd fyny at Abertawe, ac wrth gwrs, llinellau'r cymoedd."