Tân Pontsticill: 24 o ddiffoddwyr

injan dan
Image caption Mae criwiau gwasanaethau tân Merthyr Tudful, Aberdâr a Thonypandy wedi'u galw.

Mae 24 o ddiffoddwyr tân yn taclo tân gwair ger Merthyr Tudful.

Mae'r tân wedi lledu ar draws hyd at 10 cilomedr ac yn cael ei chwythu gan wyntoedd cryf at ardal goedwigaeth.

Yno mae criwiau gwasanaethau tân Merthyr Tudful, Aberdâr a Thonypandy yn ogystal â gweithwyr y Comisiwn Coedwigaeth.

Mae tri cherbyd arbenigol y gwasanaeth tân ar y safle er mwyn teithio ar draws pob math o dirwedd.

Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub y De wedi cael eu galw tua 10.40 y bore ger Cronfa Ddŵr Pontsticill.

Does dim sôn bod unrhywun wedi cael ei anafu.