Noel Edmonds yn cwestiynu gwariant iaith Gymraeg y BBC

Noel Edmonds
Dywedodd Noel Edmonds bod "yr iaith Gymraeg wedi bod yn dirywio ers 10 mlynedd a bod y BBC yn gwario £48 miliwn ar hynny."

Mae'r cyflwynydd teledu, Noel Edmonds, wedi awgrymu na fyddai'n cyllido rhaglenni Cymraeg petai'n llwyddo i brynu'r BBC ac yn cael cyfle i addasu amserlenni.

Wrth drafod ei fwriad ar raglen 'Newsnight' y BBC, cyfeiriodd at yr arian oedd yn cael ei wario ar raglenni Cymraeg gan ddweud bod "yr iaith Gymraeg wedi bod yn dirywio ers 10 mlynedd a bod y BBC yn gwario £48 miliwn ar hynny".

Dywedodd hefyd mai "50,000 o bobl sy'n siarad Gaeleg", a bod angen ailedrych ar y gwariant ar wasanaeth y 'World Service'.

Mae'r cyn-gyflwynydd yn dweud bod y BBC yn "cerdded yn eu cwsg tuag at ddinistr" ac mai dim ond chwystrelliad o ddylanwad allanol fyddai'n gallu gwneud y darlledwr yn "berthnasol i oes y rhyngrwyd".

'Prosiect Reith' am brynu'r BBC

Dywedodd nad yw'n talu'r ffi drwydded gan ei fod ond yn gwylio rhaglenni dros y we ar eu gwasanaeth gwylio eto.

Mae Noel Edmonds yn gobeithio prynu'r BBC gyda chonsortiwm o fuddsoddwyr cyfoethog.

Mewn cyfweliad gyda 'Newsnight', fe fynnodd fod ei syniad o ddifrif a bod ganddo gefnogaeth pobl tebyg iddo sy'n credu y bydd y BBC yn cael ei golli onibai bod newid.

Mae 'Prosiect Reith' wedi'i enwi ar ôl pennaeth cyntaf y BBC, ond mae Mr Edmonds yn dweud "nad oes ganddo syniad o gwbl" beth fyddai'r pris.

"Rydym yn credu bod y BBC yn cerdded yn ei gwsg tuag at ddinistr ac mi fydd Prydain yn colli'r BBC a dydyn ni ddim yn credu fod hynny'n iawn," meddai.

Mae'n credu bod dyfodol y BBC o dan amheuaeth oherwydd y problemau yn y dull mae'n cael ei gyllido, penderfyniadau'r gorffennol a'r ffordd mae'n cael ei ddefnyddio fel pêl-droed gwleidyddol.

Dywedodd ei fod "yn glaf sydd rwan yn derfynol wael ac mae angen pwer arall o'r tu allan i'w wella a'i wneud yn addas ar gyfer byd na fedran ni fod wedi'i ddychmygu 10 mlynedd yn ôl".

Amserlenni'r dyfodol?

Fe wrthododd â datgelu sut y byddai'r amserlenni yn edrych petai'n cael ei ffordd ond fe gyfeiriodd at y symiau sy'n cael ei wario ar y 'World Service' a rhaglenni iaith Gymraeg.

Dywedodd: "Oherwydd penderfyniadau'r gorffennol, mae ganddon ni sefyllfa chwerthinllyd lle mae ffi'r drwydded rwan yn talu am y World Service.

"Dydy'r rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain ddim hyd yn oed yn gwybod sut i gael y World Service.

"Mae 'na 50,000 o bobl yn siarad Gaeleg. Mae'r iaith Gymraeg wedi bod yn dirywio ers 10 mlynedd ac mae'r BBC yn gwario £48 miliwn ar hynny."