Refferendwm yr Alban: effaith ar fusnes?

Eryl Williams
Image caption Cred Eryl Williams y gall colli'r bunt yn yr Alban effeithio ar werthiant gyda'r wlad

Chwe mis cyn refferendwm yr Alban ar annibyniaeth, bu BBC Cymru yn edrych ar yr effaith posib ar fusnes.

Yr Alban yw cartref golff, yn ôl rhai, ac mae'n wlad lle mae Eryl Williams yn gwneud llawer o fusnes.

Mae cynnyrch golff Asbri yn cael ei brynu ar draws y byd ond o'r Alban y daw tua 10% o drosiant y cwmni.

Mae'r Alban yn farchnad bwysig i berchennog y cwmni, Eryl Williams, ac mae'n rhagweld problemau petai'r wlad yn penderfynu mynd yn annibynnol.

'Creu rhwystr'

"O ran ochr busnes, 'dio ddim yn syniad da. Mi fyse'n creu rhwystr i ni ddelio efo'r Alban," meddai.

"Petai nhw'n colli'r bunt, fyse hynna'n creu rhwystr i ni o ran gwerthu - o ran y trosiant rhwng arian y wlad yma a'r Alban felly byddai'n rhwystr mawr.

"Bydde'n rhaid ini greu 'price list' gwahanol iddyn nhw, fel 'da ni'n neud i'r Ewro ac i'r Doler ar hyn o bryd. Achos bo' nhw ddim yn rhan o'r UE, mae problemau fel treth a mewnforio eitemau i'r Alban, fel TAW a threthi ac ati.

"Mae 'na lot o gwestiynau sydd dal ddim wedi'u hateb."

Gostwng treth incwm

Chwe mis cyn y bleidlais, mae'r blaid lafur wedi ceisio rhoi cynnig i bobl sydd am fwy o ddatganoli ond nid annibyniaeth. Hynny yw'r addewid y gallai senedd Yr Alban godi neu ostwng y dreth incwm hyd at 15c.

Mae dau wleidydd o Gymru yn gwybod y gall tactegau gwleidyddol yn y cyfnod cyn y refferendwm yn dylanwadu'n fawr ar y canlyniad.

Dywedodd AS Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb wrth BBC Cymru fod bygwth peidio gadael i'r Alban barhau i ddefnyddio'r bunt yn neges "rhy negyddol".

"Dydw i ddim yn credu y bydd yr Alban yn pleidleisio am annibyniaeth - ond yn achos rhannu'r bunt, dw i'n credu bydd o'n gam gwag i lywodraeth gweddill y Deyrnas Unedig pe byddai'r Alban yn pleidleisio am annibyniaeth i beidio gadael i'r Alban barhau i ddefnyddio'r bunt.

"Fe fyddai'r Alban annibynnol, pe byddai hi'n bodoli, yr ail farchnad fwya' i allforion Prydeinig...

"Felly tra dw i ddim yn meddwl bydd 'na bleidlais 'ie', a thra dw i'n credu ei bod hi'n bwysig nodi fod 'na risg sylweddol i economi'r Alban o fod yn pleidleisio am annibyniaeth, dw i yn credu bod rhai o'r dadleuon wedi bod yn ormodol."

Roedd Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn teimlo y dylai fod opsiwn i bleidleisio am ragor o bwerau datganoli, a bod cynnig dim ond pleidlais 'ie' neu 'na' yn "gamsyniad".

"Beth ddyle nhw fod wedi 'neud yw cynnig be' sy'n cael ei weld fel devo-max neu devo-plus neu ryw opsiwn canol y ffordd.

"'Sdim dau yn fy meddwl i - dyna sy' am ddigwydd (pe byddai'r Alban yn pleidleisio 'na') ta beth. Dyna be' fydde' pobl wedi pleidleisio drosto...

"Ma' nhw'n chwarae gêm risky iawn nawr oherwydd y dewis sy'n wynebu pobl yr Alban yw'r status quo neu mwy o bwerau gydag annibyniaeth..."

Barn pobl Sgwar Alban

Ar Sgwâr Alban yng nghanol tref Aberaeron, mae'r dadleuon o blaid ac yn erbyn annibyniaeth wedi treiddio i ganolbarth Cymru.

"Yden nhw'n gwbod be sy o'u blaen nhw? Mae mynd ar ben eich hunan yn beth mawr," yw barn un wraig amheus.

Mae un ferch ifanc yn teimlo'n gryf bod angen iddyn nhw aros yn rhan o Brydain: "Fi'n credu'n eitha gryf, fi'n meddwl bod e'n peth da i fod yn rhan o Brydain .... Er bo fi'n cowntio fy hun yn Gymraeg, fi'n meddwl bod e'n peth brilliant i fod yn rhan o Brydain."

"Ac wedyn, efo'r holl bethau sy'n dod gyda bod efo Prydain, petai'r Alban yn gadael Prydain, bydde nhw'n gadael yr EU, y bunt ac ati, so na, sai'n meddwl bod e'n beth da o gwbl."

Ond mae Liam Bowen yn gefnogol i'r refferendwm ac yn credu y byddai pleidlais 'ie' yn cael effaith gadarnhaol ar Gymru:

"Dwi'n gobeithio, yn gyntaf, y bydd yn tanio lot fwy o ddiddordeb yn y pwnc achos yng Nghymru ar hyn o bryd, sdim lot o drafod ymysg pobl...so dwi'n gobeithio y bydd yn dod â refferendwm i flaen y newyddion, yn amlwg, a chael mwy o bobl i'w drafod e, a gobeithio, yn y pen draw, dangos bod e yn bosib i gael refferendwm positif i Gymru a chael ateb 'ie'."

Parhau i gyflenwi'r Alban

Dydi'r farn honno ddim yn cydfynd â barn y dyn busnes, Eryl Williams.

Mae Eryl yn dweud y bydd yn parhau i gyflenwi'r farchnad yn Yr Alban hyd yn oed os oes 'na fwyafrif o blaid annibyniaeth.

Ond mae'n dweud y bydd hi'n anoddach taro'r ergydion cywir mewn marchnad mor gystadleuol.

"Byddwn ni byth yn tynnu allan o'r farchnad, mae'r farchnad yn rhy bwysig. 'Da ni'n gwerthu dros y byd ac mae'r ffaith ein bod yn gwerthu i glybiau golff yn yr Alban yn rhoi hwb i ni fel busnes achos mae pawb yn gweld yr Alban fel cartref i golff, felly wnawn ni byth dynnu allan o werthu yno.

"Fel dyn busnes, dwi'n gobeithio wnawn nhw aros yn rhan o'r DU."

Straeon perthnasol