Rheilffyrdd: Ymateb David Cameron

Tren
Image caption Roedd y gwrthbleidiau wedi dweud bod angen eglurder am gost trydaneiddio rheilffyrdd

Mae David Cameron wedi ysgrifennu llythyr at Carwyn Jones ynglŷn â'r dryswch am gostau trydaneiddio rheiffyrdd.

Mewn llythyr ar Fawrth 14, dywedodd Mr Cameron ei bod hi'n "ymddangos fod camddealltwriaeth wedi bod, y byddai rheilffyrdd y Cymoedd yn cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, ond doedd hyn erioed yn rhan o'r cytundeb."

Yng nghytundeb yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru, meddai, Network Rail fyddai'n codi'r arian i drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd a'r rheilffordd rhwng Caerdydd a Phen-y-Bont ar Ogwr.

Byddai'r gost yn cael ei hadennill drwy "gynyddu ffïoedd defnyddio traciau i gwmnïau trenau sy'n defnyddio'r rhan honno o'r rhwydwaith."

'Datganoli'

"Mae'r cyfrifoldeb am gostau rheilffordd Cymru a'r Gororau wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru."

Daw hyn wedi i'r gwrthbleidiau alw ar lywodraeth Cymru i'w gwneud hi'n glir pwy fyddai'n talu am uwchraddio rheilffyrdd yn ne Cymru.

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn mynnu mai llywodraeth y DU ddylai dalu am drydaneiddio rheilffyrdd y cymoedd.

Ond yn ôl llywodraeth y DU mae llywodraeth ddatganoledig Cymru wedi cytuno dwy flynedd yn ôl y byddai'r arian yn dod gan fasnachfraint West and Borders Rail.

Cafodd y cynllun i drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd - a phrif lein y gorllewin rhwng Caerdydd ac Abertawe - ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2012, ar gost o tua £350m.

'Synnu'

Ynghynt ddydd Llun dywedodd Mr Jones bod Prif Weinidog y DU David Cameron wedi cytuno yn gyhoeddus - ac mewn cyfarfodydd - y byddai llywodraeth y DU yn talu am drydaneiddio Rheilffyrd y Cymoedd.

Dywedodd nad oedd cyfrifoldeb am fuddsoddi mewn rheilffyrdd wedi ei ddatganoli ac yn parhau yn San Steffan.

Ond dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones ei fod yn "synnu" at sylwadau'r prif weinidog a chyfeiriodd at lythyrau rhwng Caerdydd a San Steffan yn 2012.

Ar y pryd, roedd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Justine Greening, wedi esbonio'r 'cytundeb' ar drydaneiddio mewn llythyr i lywodraeth Cymru.

Dywedodd y byddai masnachfraint Wales and Borders yn cynnwys gwasanaethau trydanol yn y dyfodol. Byddai cost hynny yn dod o "godi tal ar y fasnachfraint i ad-dalu'r buddsoddiad gan Network Rail".

Ar y pryd fe wnaeth gweinidog llywodraeth Cymru Carl Sargeant ysgrifennu yn ôl i gadarnhau'r cytundeb.

Tâl mynediad

Mae'r swm yn cael ei dalu gan gwmnïau trên er mwyn defnyddio'r rhwydwaith rheilffordd.

Trenau Arriva Cymru sy'n rhedeg y gwasanaeth ar hyn o bryd, gyda chymhorthdal gan lywodraeth Cymru. Mae disgwyl i'r fasnachfraint gael ei adnewyddu yn 2018.

Byddai trydanu yn golygu tâl mynediad uwch - ond mae'r ddadl rhwng Caerdydd a San Steffan yn codi pryderon am bwy fydd yn talu am y cynnydd yna.

Mae un arbenigwr yn dweud bod y tâl yn un ffordd o dalu am y trydaneidido, ond nid oedd y cytundeb yn nodi lle fyddai'r arian yn dod ohono.

Dywedodd ffynhonnell o lywodraeth Cymru bod sylwadau Ysgrifennydd Cymru yn "ddryslyd".

Yn siarad gyda BBC Cymru ym mis Hydref 2013, dywedodd David Cameron: "Y llywodraeth yma sy'n rhoi arian i mewn i drydaneiddio'r lein at Abertawe ac wrth gwrs, y Cymoedd."

'Cytundeb yn glir iawn'

Yn ôl Plaid Cymru, dylai llywodraeth y DU dalu'r gost.

Ond ychwanegodd Simon Thomas AC: "Mae cwestiwn gwleidyddol i'r gweinidog ar y pryd - dwi'n meddwl mai Carl Sargeant (oedd e) - i ddeall yr hyn yr oedd yn meddwl ei fod yn cytuno iddo."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod sylwadau'r prif weinidog wedi "synnu pobl", a'i fod yn ceisio gwneud y mater yn llai clir.

"Mae'r cytundeb yn glir iawn a beth mae'r hyn mae'r prif weinidog yn ei ddweud yn wahanol i'r dystiolaeth a chyhoeddiadau'r llywodraeth ei hun."

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, bod y prosiect yn rhy bwysig i ddadlau drosti.

"Mae angen cwestiynu penderfyniad y prif weinidog i fynd yn gyhoeddus yn hytrach na sortio unrhyw broblemau."

Straeon perthnasol