Heddlu'n apelio wedi digwyddiad amheus yng Ngorseinon

Mae'r heddlu yn Abertawe yn apelio am wybodaeth yn dilyn digwyddiad amheus yng Ngorseinon ddydd Sadwrn, Mawrth 15.

Roedd bachgen 11 oed yn cerdded ar hyd Ffordd Frampton i gyfeiriad siop NISA i gwrdd â ffrindiau pan ddaeth dyn ato a cheisio'i orfodi i mewn i gar.

Cafodd y dyn ei ddisgrifio fel dyn gwyn yn ei 30au hwyr neu 40au cynnar gyda chorff tenau, gwallt du ac wedi eillio.

Roedd yn gwisgo tracwisg lwyd gyda streipiau coch ar yr ochrau, a chredir mai cerbyd Volkswagen Golf oedd ganddo oedd naill ai'n las golau neu arian mewn lliw.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Darren George, o Heddlu Abertawe: "Roedd hwn yn brofiad brawychus i'r bachgen bach.

"Aeth y dyn ato ar brynhawn Sadwrn mewn ardal brysur orseinon. Rwy'n apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal oddeutu 2:00yh ddydd Sadwrn, a allai fod gweld yr hyn ddigwyddodd, i gysylltu gyda'r heddlu."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan nodi'r cyfeirnod 1400087213.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.