Cytundeb newydd i Aaron Ramsey gydag Arsenal

Aaron Ramsey Image copyright Getty Images

Mae'r chwaraewr pêl droed rhyngwladol Aaron Ramsey wedi arwyddo cytundeb newydd fydd yn ymestyn ei gyfnod gyda'i glwb Arsenal.

Dywedodd y Cymro, sydd yn gwella ar ôl dioddef anaf i'w glun ar hyn o bryd, ei fod yn gobeithio chwarae eto'n fuan mewn gemau'r Uwch Gynghrair yn Lloegr, gan helpu'r clwb i gyrraedd y brig a chipio cwpan yr FA.

Fe sgoriodd 13 gôl y tymor hwn cyn dioddef yr anaf, ac yn dilyn y cyhoeddiad am ei gytundeb newydd fe ddywedodd ei fod yn edrych ymlaen at y sialensiau sydd yn ei wynebu dan ofal rheolwr Arsenal, Arsene Wenger.

''Dw i'n teimlo fod llawer mwy i ddod. Dw i wedi profi nifer o bobl yn anghywir y tymor hwn,'' meddai.

''Roedd 'na gyfnod anodd wedi bod yn ystod yr amser ar ôl fy anaf, ond dw i wedi goroesi'r cyfnod yna ac mi rydw i'n teimlo'n hyderus iawn ac yn teimlo fy mod yn gwella gyda phob gêm.

''Dw i'n gobeithio gallu dychwelyd i'r cae pêl droed mor fuan â phosib a dangos fy ngallu a gobeithio gorffen y tymor mewn tipyn o steil,'' meddai Ramsey.