Cwyno wedi i NS&I wrthod ateb llythyr Cymraeg

NS&I

Mae un o gwsmeriaid cwmni Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol wedi gwneud cwyn swyddogol wedi i'r cwmni wrthod ateb llythyr gafodd ei ysgrifennu yn Gymraeg.

Ysgrifennodd Arfon Rhys o Gaernarfon at y cwmni wedi i wybodaeth gael ei hanfon yn uniaith Saesneg ato.

Fe wnaeth gais yn Gymraeg i dderbyn y wybodaeth yn Gymraeg ond cafodd ei wrthod ar y sail bod y llythyr ysgrifennodd Mr Rhys mewn "iaith dramor".

Mae'r cwmni wedi ymddiheuro.

Daw'r llythyr wedi i farnwyr Uchel Lys ynghynt y mis hwn ddyfarnu bod penderfyniad y cwmni i ddiddymu eu cynllun iaith Gymraeg yn anghyfreithlon.

'Iaith dramor'

Dywedodd Mr Rhys ei fod wedi derbyn llythyr uniaith Saesneg gan NS&I yn ei hysbysu am wasanaeth ar-lein newydd ddechrau mis Mawrth.

Gan nad oedd y llythyr yn ddwyieithog, ysgrifennodd lythyr "syml iawn" yn Gymraeg yn gofyn a allai gael y wybodaeth yn Gymraeg.

Yn eu hymateb gafodd ei ysgrifennu ar Fawrth 13, mae'r cwmni yn nodi bod y llythyr wedi ei ysgrifennu mewn "iaith dramor" ac felly nad ydynt yn gallu delio gydag ef.

Dywedodd y llythyr:

"We have received correspondence from you in your own language. As we do not translate from your language into English, we can't reply to your letter.

"I enclose your original document so that you can arrange for it to be translated into English and resent to us.

"We will then be able to deal with your request."

Image caption Mae llythyr NS&I yn dweud na all y cwmni ddelio gyda llythyr Cymraeg gan ei fod yn 'iaith dramor'

Yn anghyfreithlon

Ar Fawrth 6 penderfynodd barnwyr yr Uchel Lys fod penderfyniad NS&I i ddiddymu eu cynllun iaith Gymraeg yn anghyfreithlon.

Roedd y cwmni wedi dweud nad oedd llawer o gwsmeriaid yn defnyddio eu gwasanaethau Cymraeg a'u bod yn rhy gostus i'w cynnig.

Yn dilyn cais am adolygiad barnwrol gan Gomisiynydd y Gymraeg cafodd y penderfyniad ei ddiddymu.

Dywedodd y barnwyr y byddai rhaid i NS&I ail-ddechrau eu cynllun iaith.

Ddydd Mercher dywedodd Mr Rhys fod ymateb y cwmni yn annerbyniol.

"Mae rhywun yn meddwl am wasanaeth cwsmer gwael iawn i ddechrau - mae rhywun yn disgwyl gwasanaeth teilwng ...," meddai.

"Ond dwi'n credu gan eu bod nhw yn National Savings & Investments y dylen nhw ddelio gydag iaith swyddogol Cymru."

Mae wedi gwneud cwyn i Gomisiynydd y Gymraeg.

'Yn wahanol'

"Mae'r Gymraeg yn wahanol i ieithoedd eraill Prydain gan ei bod yn iaith swyddogol Cymru ...

"Mae'n rhyfedd ac eironig bod y llythyr wedi dod o Glasgow, talaith lle oedd y Gymraeg yn fyw iawn yn yr hen oesoedd."

Mewn datganiad ymddiheurodd y cwmni am eu hymateb i lythyr Mr Rhys.

"Rydyn ni'n ymddiheuro am ddefnyddio'r term 'llythyr mewn iaith dramor' wrth ymateb i'n cwsmer - ni ddylai hyn fod wedi digwydd.

"Ynglŷn â dyfarniad yr adolygiad barnwrol diweddar o wasanaeth iaith Gymraeg NS&I, ar hyn o bryd ni allwn ni ddim rhoi dyddiad penodol pryd y bydd y gwasanaeth yn weithredol eto."

Ychwanegodd y llefarydd: "Rydyn ni wedi dechrau'r gwaith o'i ail-ddechrau."

Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: "Mae Comisiynydd y Gymraeg eisoes yn ymwybodol o'r mater hwn ac rydym yn ei ystyried gan ddilyn gweithdrefnau priodol.

"Er mwyn osgoi rhagfarnu canlyniad yr achos ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw pellach ar yr adeg yma.

"Yn sgil dyfarniad yr Uchel Lys yn gynharach y mis hwn mae Cynllun Iaith Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn parhau mewn grym."

Straeon perthnasol