Osborne: Cyllideb 2014 i'r gwneuthurwyr a'r cynilwyr

George Osborne
Image caption Dywedodd George Osborne bod "hwn yn gyllideb i'r gwneuthurwyr, y rhai sy'n gwneud, a'r rhai sy'n cynilo''.

Hon oedd cyllideb olaf ond un y Glymblaid cyn etholiad cyffredinol San Steffan yn 2015, ac roedd pwysau ar y Canghellor George Osborne i'w chael hi'n iawn.

Cafodd nifer o fesurau newydd eu cyhoeddi gan gynnwys rhai fydd yn siŵr o blesio pobl sydd yn ceisio arbed ar gyfer eu pensiwn, neu arbed yn gyffredinol hyd yn oed.

Ond nid pawb fydd ar eu hennill - er enghraifft fe wrthododd Mr Osborne â chodi'r lefel lle mae pobl yn dechrau talu'r band treth 40%.

Mi ddywedodd Mr Osborne fod yr economi wedi tyfu dair gwaith fwy na'r disgwyl a bod hon yn gyllideb ar gyfer "y gwneuthurwyr, y gweithredwyr a'r cynilwyr".

Sefyllfa'r economi

Mae disgwyl i'r economi dyfu 2.3% yn ystod y flwyddyn nesaf, 2.6% yn 2016 a'r un fath, 2.6% yn 2017.

Does na'r un economi datblygedig yn y byd yn tyfu cymaint ag economi Prydain ar hyn o bryd.

Dywedodd fod cynnydd o 1.3m o bobl mewn gwaith.

Mae'n disgwyl y bydd 1.5m o swyddi ychwanegol yn cael eu creu yn y 5 mlynedd nesaf.

Mae'r nifer o bobl mewn gwaith yn uwch nag erioed, felly hefyd y nifer o ferched mewn gwaith a chyfradd cyflogaeth uwch na'r UDA am y tro cyntaf mewn 35 mlynedd.

Newyddion da i bensiynwyr

Yn dilyn addewid y Trysorlys o gyhoeddiad annisgwyl, roedd hynny'n ymwneud â chynilion a chyllid i bensiynwyr.

Gan ddechrau ddiwedd y mis, fydd dim rhaid i bensiynwyr ddefnyddio eu cronfa bensiwn i brynu blwydd-daliadau (neu annuities). Yn hytrach, bydd hawl gan bob pensiynwr i wneud fel a fyn gyda'i arian.

O ran cynilion, y newyddion i'r 299,000 o Gymry sydd â chyfrif ISA yw bod y system yn cael ei symlhau, gan greu un cyfrif syml, a chaniatad i gynilo bron i deirgwaith yn fwy, hyd at £15,000.

Mae'n dweud ei fod yn awyddus i helpu'r bobl hynny sydd am gynilo.

Dywedodd ''Rydych wedi ei haeddu, rydych wedi ei gynilo - ac mae'r llywodraeth hwn ar eich ochr chi.

"Mae hwn yn gyllideb i'r gwneuthurwyr, y rhai sy'n gwneud, a'r rhai sy'n cynilo''.

Treth

Bydd lwfans treth personol - sef yr incwm y caiff pobl ei ennill cyn talu unrhyw dreth incwm - yn cynyddu i £10,000 o fis Ebrill eleni - er fod y cyhoeddiad yma wedi ei wneud yn araith y gyllideb flwyddyn yn ôl.

Y flwyddyn nesaf, fe fydd yn cynyddu i £10,500.

Bydd hyn yn golygu y bydd 1.16m o drethdalwyr Cymru ar gyfartaledd ar eu hennill o £61 y flwyddyn.

Bydd toriadau trethi i bobl ar incwm isel ag incwm canolig.

Dywedodd hefyd bod buddsoddwyr wedi dioddef yn y blynyddoedd diwethaf.

Bydd trothwy treth 40c yn cynyddu ar gyflogau o £40,450 i 41,865 o fis Ebrill ymlaen.

Tanwydd, alcohol a sigarennau

Image caption Mae'r dreth ar gwrw yn cael ei dorri o geiniog

Fydd dim cynnydd yn y dreth ar danwydd.

Mae treth ar gwrw hefyd yn cael ei dorri o geiniog, a'r dreth ar wisgi a gwirodydd yn cael ei rewi - newyddion da i dafarndai Cymru.

Ond fe fydd y dreth ar dobaco yn cynyddu 2% uwchben chwyddiant.

I'r rhai oedd yn gobeithio y byddai treth bingo yn gostwng i 15%, daeth newyddion gwell gan y Canghellor, ac addewid i haneru'r dreth ar y gêm o 20% i 10%.

Gofal plant

Roedd y cyhoeddiad am gymorth i rieni gyda chostau gofal plant wedi'i gyhoeddi cyn araith y canghellor heddiw.

Bydd bron i 2 filiwn o deuluoedd yn gallu manteisio ar gymorthdal gofal plant fydd werth £2,000 i bob plentyn dan 12 oed, gyda'r cynllun yn dechrau ym mis Medi.

Treth stamp / Treth ar werth

Mi fydd yn cymeryd camau i atal pobl rhag osgoi treth stamp sydd yn berchen ar dai drwy gwmnïau.

Bydd unrhywun sy'n prynu eiddo gwerth dros £500,000 drwy gwmni yn gorfod talu 15% o dreth stamp.

O hyn ymlaen, bydd dim angen i wasanaethau ambiwlans awyr dalu treth ar werth ar danwydd.

Bydd dirwyon LIBOR i'w defnyddio i ariannu gwasanaethau chwilio ag achub.

Cymru

Mi fydd grymoedd trethu a benthyg newydd yn cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru, fydd yn golygu bod y llywodraeth yn gallu cychwyn ar y gwaith o wella'r M4 ger Casnewydd.

Fe fydd Llywodraeth Cymru'n derbyn £36m yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i'r gyllideb gyhoeddwyd heddiw.

Mae'r cynnydd bychan - sy'n dod o ganlyniad i gynnydd mewn gwariant yn Lloegr - yn cynrychioli ychydig dros 0.1% o gyllideb Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, fe fydd y cynlluniau i gynyddu'r trothwy treth i £10,500 yn Ebrill 2015 yn golygu na fydd 14,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn talu unrhyw dreth incwm - er y bydd nifer yn parhau i dalu yswiriant gwladol.

Y diwydiant adeiladu

Image copyright PA

Mi fydd hanner biliwn o arian ar gael i gwmnïau adeiladu tai bychain.

Mi fydd y cynllun 'Help i Brynu' tai newydd yn parhau tan 2020.

Yn ôl Mr Osborne, bydd y polisïau adeiladu a thai sydd wedi'u cyhoeddi heddiw yn cefnogi dros 200,000 o dai newydd i deuluoedd.

Ynni

Mae'n dweud bod angen torri costau ynni.

Image copyright PA
Image caption Mae'n newyddion da i fusnesau o Gymru sy'n wynebu biliau ynni uchel, cwmnïau fel gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.

Mae'n bwriadu buddsoddi mewn ynni niwclear newydd ac ynni shale.

Yn ogystal, bydd iawndal newydd i warchod cwmnïau ynni sydd wedi gweld cynnydd mewn costau.

Mi fydd pecyn o £7 biliwn i dorri biliau ynni gweithgynhyrchwyr.

Dywedodd bod y ''llywodraeth o blaid gweithgynhyrchwyr a Phrydain sydd yn gwneud pethau unwaith eto.''

Mae'n newyddion da i fusnesau o Gymru sy'n wynebu biliau ynni uchel, cwmnïau fel gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.

Fe fyddan nhw'n cael cyllid ychwanegol i wneud iawn am eu costau.

Mae'n debyg bod 16 o funesau cymwys yng Nghymru, fydd yn rhannu rhyw £240m o iawndal.

Roedd pryderon y gallai costau ynni uchel orfodi rhai busnesau i symud.

Allforion

Dywedodd bod yn rhaid i Brydain wella masnachu tramor a chynyddu eu hallforion.

I helpu hynny, mae am ddyblu maint y benthyciadau sydd ar gael i allforion i £3 biliwn, ac fe fydd y cyfraddau llog ar y benthyciadau hynny yn cael eu cwtogi dros 30%.

Mi fydd lwfans newydd i dechnoleg newydd ym maes chwilio am olew a nwy ym Môr y Gogledd.

Busnes

Dywedodd bod angen buddsoddi ar gyfer busnes, ac y bydd pob busnes yn y wlad i dderbyn lwfans cyflogwr.

Mae hefyd am ddatblygu sgiliau i'r ifanc, ac mae'n bwriadu dyblu niferoedd prentisiaethau, yn ogystal â chyhoeddi prentisiaethau at lefel gradd prifysgol.

Mi fydd y Llywodraeth yn ymestyn y cymorthdal ar gyfer busnesau bychain i gefnogi 100,000 yn fwy o bentrisiaid.

Mi fydd cymorth treth i theatrau lleol.

Mi fydd hefyd yn dyblu lwfans buddsoddi i £500,000 ac yn ei ymestyn tan 2015 gan ddechrau diwedd mis nesaf; bydd y lwfans buddsoddi o 100% yn cael ei roi i 99% o fusnesau.

Toriadau

Dywedodd Mr Osborne y bydd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd nawr er mwyn cwtogi'r ddyled a chefnogi'r gwasanaeth iechyd.

Bydd y Siarter Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Dywedodd bod penderfyniadau anodd i ddod i wasanaethau cyhoeddus.

Yn ôl Mr Osborne: ''Bydd trethi yn is ond fe fydd gwariant yn is hefyd''.

Mi fydd cap ar wariant ar fuddaliadau yn cael ei osod ar lefel o £119 biliwn yn 2015-16, ac yn £127 biliwn erbyn 2018-19.

Mi fydd cynnydd mewn gwariant ar fuddaliadau yn unol â chwyddiant.

Dyled a benthyg

Dywedodd Mr Osborne ei fod yn disgwyl y bydd y diffyg cenedlaethol i lawr i 5.5% o GDP yn 2014-15, yn 4.2% yn 2015-16, ac yn cyrraedd 0.8% erbyn 2017-18.

Mae'n disgwyl y bydd arian ar ôl yng nghyllid gwariant 2018-19.

Mae'n disgwyl y bydd Prydain yn benthyg £95 biliwn yn 2014-15.

Bydd y ffigwr yn gostwng i £75 biliwn yn 2015-16 ac yn £44 biliwn yn 2016-17, yna £17 biliwn yn 2017-18.

Mae Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol (OBR) yn rhagweld y bydd £5 biliwn o arian dros ben erbyn 2018-19.

Fe gyhoeddodd y Canghellor y bydd newidiadau i wneuthuriad a chynllun y bunt - gyda ysbrydoliaeth yn deillio o'r 'threepenny bit'. Mi fydd y bunt 12 ochr newydd yn dod i rym yn 2017.

Straeon perthnasol