Kevin Wilkin yw rheolwr newydd Wrecsam

Kevin Wilkin

Fore Iau, mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi mai Kevin Wilkin ydy eu rheolwr newydd.

Mae Wilkin yn ymuno â'r Dreigiau ar gytundeb dwy flynedd, hyd at ddiwedd tymor 2015/16.

Daw hyn yn dilyn y newyddion nos Fercher fod y rheolwr dros-dro, Billy Barr, wedi gadael y clwb.

Ben bore Iau, fe gyhoeddodd cyn-glwb Wilkin, Nuneaton Town, ei fod o wedi gadael ei swydd gyda'r clwb.

Bu'r cyn-chwaraewr Northampton wrth y llyw yn Liberty Way ers 2006, gan sicrhau tri dyrchafiad a'u gadael yn rhengoedd y gemau ail-gyfle cyn ymuno â Wrecsam.

Meddai Spencer Harris, cyfarwyddwr CPD Wrecsam:

"'Da ni wrth ein boddau ein bod ni wedi bachu un o'r rheolwyr ifanc mwya' deiniadol y tu allan i'r Gynghrair, ac fe fydd o'n yn symud yma i fyw.

"Fe fydd Kevin yn dechrau ar ei waith yn syth gan arwain y tîm am y tro cynta' ar y Cae Ras yn erbyn Dinas Salisbury ddydd Sadwrn, Mawrth 22.

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous yn y clwb a 'da ni'n credu ein bod ni'n creu tîm fydd yn dod â'r llwyddiant 'da ni'n eu grefu yn Wrecsam."

Straeon perthnasol