Tîm rygbi cadair olwyn newydd i'r gogledd

Cynrychiolwyr Crusaders Gogledd Cymru, Chwaraeon Sir y Fflint a Chwaraeon Cymru
Image caption Y gobaith yw y bydd mwy o blant yn trio chwaraeon anabledd fel rygbi cadair olwyn

Mae tîm rygbi cadair olwyn newydd wedi ei sefydlu yn Wrecsam i geisio hybu chwaraeon anabledd yn yr ardal.

Mewn partneriaeth â chlwb rygbi 13 proffesiynol 'Crusaders Gogledd Cymru', mae clwb rygbi cadair olwyn â rhaglen gymunedol wedi eu sefydlu yn y dref.

Fel rhan o'r cynllun, bydd mwy o gysylltiad gyda phlant ysgol i gynyddu ymwybyddiaeth am chwaraeon anabledd.

Mae'r tîm yn cystadlu mewn cynghrair genedlaethol, ac mae chwech o'u chwaraewyr wedi cystadlu dros Gymru yn y gorffennol.

Camp gorfforol

Yn ôl y Ffederasiwn Rygbi Cadair Olwyn Ryngwladol, cafodd y gamp ei chreu yn 1977 gan athletwyr wedi eu parlysu.

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd rygbi cadair olwyn ei dderbyn fel camp paralymaidd swyddogol yn 1994

Mae'n cyfuno elfennau o rygbi, pêl-fasged a llawbel (handball), gyda thimau o bedwar yn ceisio cario'r bêl dros linell gol y tîm arall.

Mae'n gamp gorfforol, gyda chwaraewyr yn taro i mewn i'w gilydd gyda'u cadeiriau i'w harbed rhag cyrraedd y llinell.

Mae'r gamp bellach yn cael ei gynnwys yn y Gemau Paralympaidd, gyda 26 o wledydd yn cystadlu eisoes, a 10 arall yn datblygu timau cenedlaethol.

Gyda chefnogaeth Chwaraeon Anabledd Cymru a Cyngor Sir Fflint, mae tîm y Crusaders nawr yn gobeithio denu mwy o chwaraewyr ar gyfer y tymor nesaf.

'Datblygu chwaraeon o safon'

Dywedodd Donna Bullivant-Evans, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cyngor Sir y Fflint: "Mae'n braf cael clwb mor weithgar sy'n awyddus i ddatblygu chwaraeon o safon i bobl anabl.

"Drwy weithio mewn partneriaeth, gallwn godi ymwybyddiaeth o chwaraeon pobl anabl ac annog cannoedd o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon cadair olwyn."

Mae cyfarwyddwr Crusaders Gogledd Cymru, Bob Wilson, yn edrych ymlaen at ddenu aelodau newydd.

"Mae Crusaders Gogledd Cymru yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Anabledd Cymru a Chwaraeon Sir y Fflint.

"Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yw cartref rygbi'r gynghrair yng Nghymru ac mae tîm cadair olwyn y Crusaders yn ymarfer ac yn chwarae eu gemau yno.

"Rydym yn edrych ymlaen at y tymor nesaf ac at groesawu chwaraewyr newydd i'n clwb."

Straeon perthnasol