Gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr M4

Mae gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng car a cherbyd gyriant pedair olwyn ar yr M4 rhwng cyffordd 35 a 36 ym Mhen-y-Bont.

Digwyddodd y gwrthdrawiad toc cyn un ddydd Iau.

Mae'r gwasanaethau brys wedi ei galw. Does dim manylion ar hyn o bryd a oes 'na bobl wedi brifo.

Mae'r heddlu yn dweud bod 'na dagfa ar y draffordd ac y bydd yn rhaid symud y cerbydau.