Cyflwyno Mesur Cymru'n ffurfiol

Y Senedd Image copyright Thinkstock
Image caption Mae disgwyl i'r Mesur fod yn ddeddf cyn Etholiad Cyffredinol 2015

Mae Mesur Cymru wedi cael ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Senedd yn San Steffan gan Ysgrifennydd Cymru David Jones a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander.

Dyma'r mesur fydd yn datganoli pwerau sylweddol i fenthyg arian a threthu i Fae Caerdydd.

Fe ddaw yn dilyn adroddiad cyntaf Comisiwn Silk ar ddatganoli oedd yn gwneud nifer o argymhellion, ac mae Mesur Cymru yn rhoi'r fframwaith deddfwriaethol i weithredu'r pwerau yn ei le.

Mae'r Mesur hefyd yn cynnwys newidiadau i'r trefniadau etholiadol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn ymgynghoriad gan y llywodraeth yn 2012.

Prif fesurau

Ymhlith prif fesurau'r Mesur mae :-

  • Datganoli treth dir, y dreth stamp a threth tirlenwi i Gymru, gan alluogi'r Cynulliad i'w disodli â threthi newydd sy'n benodol i Gymru;
  • Caniatáu i ragor o drethi gael eu datganoli, gyda chytundeb y Senedd a'r Cynulliad;
  • Rhoi refferendwm i Gymru ynghylch a ddylid datganoli elfen o'r dreth incwm;
  • Caniatáu i'r Cynulliad, yn amodol ar bleidlais o blaid mewn refferendwm, osod cyfradd Cymru er mwyn cyfrifo cyfraddau'r dreth incwm sydd i'w thalu gan drethdalwyr yng Nghymru;
  • Rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru gael benthyg i ariannu gwariant cyfalaf, ac ymestyn dan ba amgylchiadau maen nhw'n cael benthyg yn y tymor byr er mwyn rheoli amrywiadau mewn refeniw treth;
  • Rhoi'r pŵer i'r Cynulliad benderfynu ar y weithdrefn ar gyfer awdurdodi a chraffu ar gynlluniau treth a gwariant Llywodraeth Cymru.

'Mwy atebol'

Wrth gyflwyno'r Mesur, dywedodd David Jones AS:

"Mae Mesur Cymru a gyflwynwyd i'r Senedd heddiw yn garreg filltir bwysig mewn datganoli yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r pecyn o bwerau trethu a benthyca y mae'n ei ddatganoli i Gymru er mwyn tyfu economi Cymru, rhoi mantais gystadleuol i Gymru a gwneud Cymru yn lle mwy ffyniannus.

"Yr un mor bwysig, bydd yn gwneud y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i'r bobl sy'n eu hethol. Am y tro cyntaf, byddant yn gyfrifol nid yn unig am yr arian maent yn ei wario ond am godi rhywfaint o'r arian hwnnw hefyd.

"Mae'r ffaith ein bod wedi cyflwyno'r Mesur hwn mor gyflym yn brawf o ddymuniad y Llywodraeth hon i weld y Mesur hwn yn cael ei basio cyn diwedd y Senedd hon ac mae'n rhoi cyfle i lywodraethu datganoledig yng Nghymru fod yn fwy teg, yn fwy atebol ac, yn hollbwysig yn fwy abl i allu cefnogi twf economaidd."

Etholaeth a rhestr

Bydd y Mesur hefyd yn cynnwys mabwysiadu'n ffurfiol y teitl 'Llywodraeth Cymru' yn lle 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' er bod y gyfundrefn ym Mae Caerdydd wedi bod yn defnyddio'r teitl ers tro.

Bydd hefyd yn dileu'r gwaharddiad sy'n atal ymgeiswyr mewn etholiadau Cynulliad rhag sefyll mewn etholaeth ac ar y rhestr rhanbarthol, ac yn atal Aelodau Cynulliad rhag bod yn Aelodau Seneddol hefyd.

Mae'r Mesur felly yn cychwyn ar ei daith drwy'r Senedd, a'r disgwyl yw y bydd yn cael ei wneud yn gyfraith cyn yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2015.

'Testun cywilydd'

Wrth ymateb i gyhoeddi'r Mesur dywedodd Hywel Williams, aelod seneddol Plaid Cymru dros Arfon sy'n aelod o'r pwyllgor seneddol fu'n craffu'r mesur drafft:

"Yn gyson ac unedig, mae Plaid Cymru wedi dadlau'r achos o blaid trosglwyddo pwerau creu-swyddi a hybu'r economi o San Steffan i Gymru.

"Rydym felly'n croesawu cyhoeddi Mesur Cymru a fydd yn rhoi rhai o argymhellion Comisiwn traws-bleidiol Silk ar waith.

"Serch hyn, ein hamcan o'r cychwyn oedd i gynnal argymhellion gwreiddiol y Comisiwn yn eu cyfanrwydd ac mae'n siomedig gweld eu bod wedi cael eu dewis a dethol fel hyn.

"Byddwn yn ceisio gwneud yn iawn am hyn drwy osod gwelliannau i Fesur Cymru gyda'r bwriad o gael gwared ar y 'lockstep' - rhwystr fydd yn cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i amrywio cyfraddau treth incwm.

"Yn ogystal â hyn byddwn yn ceisio newid y Mesur er mwyn datganoli Treth Teithwyr Awyr i Gymru, fel y nododd adroddiad y Comisiwn Silk.

"Ar ôl honni mai "trap Torïaidd" yw'r 'lockstep' a phrynu Maes Awyr Caerdydd, byddai'n destun cywilydd mawr i Brif Weinidog Cymru - aelod mwyaf pwerus y blaid Lafur yn y DU - pe byddai'n methu perswadio ASau Llafur yn San Steffan i gefnogi'r gwelliannau hyn sydd mor allweddol i'r economi Gymreig.

"Ar y cyfan, mae'r Mesur yn gyfle coll am nad yw'n cynnwys argymhellion ail adroddiad y Comisiwn Silk oedd yn cynnig trosglwyddo pwerau ehangach i Gymru megis ynni, trafnidiaeth a heddlua."

'Lliniaru effeithiau'r toriadau'

Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, AS Pontypridd Owen Smith:

"Mae hwn yn fesur pwysig sy'n rhoi pwerau benthyg hanfodol i Lywodraeth Cymru ac yn paratoi'r ffordd i Gymru reoli trethi busnes, treth stamp ac, os fydd refferendwm yn cymeradwyo hynny, treth incwm.

"Mae Cymru angen pwerau ychwanegol er mwyn lliniaru effeithiau toriadau'r Ceidwadwyr i gyllideb Cymru a fydd 10% yn is yn oes y senedd yma.

"Fel plaid datganoli fe fydd Llafur yn ymdrin â'r mesur yn bositif ac yn chwilio am ffyrdd o'i wella er budd pobl Cymru.

"Rydym yn edrych ymlaen at drafod rhagoriaethau'r mesur ar y cyfle cyntaf."

Straeon perthnasol