Cynhadledd i hybu cydraddoldeb hiliol

Plant mwslemaidd
Image caption Roedd hanner y disgyblion gafodd eu holi gan elusen Barnardos yn dweud eu bod wedi profi bwlio ar sail hil.

Ar ddiwrnod rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar ddileu anffafriaeth hiliol, bydd cynhadledd arbennig yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd i hybu cydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

Cyngor Hil Cymru sy'n cynnal y gynhadledd a bydd gwleidyddion, academyddion, ymgynghorwyr Llywodraeth Cymru, ymgynghorwyr hiliaeth a phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan anffafriaeth hiliol yn dod at ei gilydd i drafod a gweld sut mae cydraddoldeb yn cael ei hybu yng Nghymru.

Yn ôl Cadeirydd Cyngor Hil Cymru, y Barnwr Ray Singh, mae hiliaeth yn dal mewn bodolaeth yng Nghymru:

"Mae'r hinsawdd economaidd anodd wedi cael effaith ar bawb sy'n byw yma, waeth bynnag fo'u cefndir. Ond er hynny, mae'r rheiny sydd o gefndir lleiafrif ethnig neu ddu yn cael eu taro'n waeth nag eraill."

Ychwanegodd: "Mae datblygiad wedi bod ond mae dal cryn dipyn i'w wneud, ac felly fe fydd ein cynhadledd yn darparu cyfle gwerthfawr i'r rhai sydd mewn safleoedd pwerus, dylanwadol, i wrando ar ei gilydd ac ar y rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan anffafriaeth, ac i gymryd camau i wella bywydau'r bobl hynny sydd wedi'u heffeithio."

Esboniodd Belinda Robertson o undeb UNITE Cymru: "Mae ein haelodau o leiafrifoedd ethnig yn wynebu rhwystrau mewn siapau a ffurfiau gwahanol. Mae nhw'n dal i ddioddef sylwadau sarhaus ar y strydoedd lle mae nhw'n byw, dim ond oherwydd lliw eu croen."

"Mae nhw dal yn cael eu heffeithio'n anghyfartal gan doriadau swyddi a rhewi cyflogau, ac mae merched o leiafrifoedd ethnig ymysg y rhai sydd wedi'u taro waethaf gan y cap ar fudd-daliadau."

Mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal ar ddiwrnod rhyngwladol dileu anffafriaeth hiliol, diwrnod gafodd ei sefydlu yn dilyn cyflafan Sharpeville ar Fawrth 21ain, 1960 pan saethodd heddlu De Affrica at brotest heddychlon gan ladd 69 o bobl, gan gynnwys plant.

Roedd Sharpeville yn drobwynt pwysig yn y gwrthwynebu rhyngwladol i apartheid yn Ne Affrica.

Hiliaeth yn brofiad bob dydd

Mae Grŵp Cydraddoldeb Cymru (WEG) sy'n gweithio gydag ac ar ran y rheiny sy'n dioddef hiliaeth neu anghydraddoldeb yn y gweithle, mewn gwasanaethau ac yn gyhoeddus, yn dweud bod agweddau hiliol yn rhan o brofiad bob dydd i bobl o leiafrifoedd ethnig ar draws Cymru.

Roedd hanner y disgyblion gafodd eu holi gan elusen Barnardos yn dweud eu bod wedi profi bwlio ar sail hil.

Yn ôl un bachgen o'r de-ddwyrain, Abid: "Dwi'n credu bod o ddim am fod yn ddu erbyn hyn, mae am y ffaith 'dwyt ti ddim yn Brydeiniwr neu dwyt ti ddim yn integreiddiedig am dy fod yn gwisgo'n wahanol neu dy fod yn edrych yn wahanol'."

Dywedodd Sue sy'n gweithio i'r Grwp yn y gogledd eu bod yn "gweithio gyda phlant mewn ysgolion rwan ac wedi dod ar draws nifer o sylwadau hiliol, hyd yn oed plant ifanc sy'n drist iawn."

Mae dros 70% o droseddau casineb yn y gogledd yn ymwneud â hiliaeth.

Yn ôl WEG, mae trigolion o leiafrifoedd ethnig yn aml yn gofyn i gael symud ty oherwydd achosion o hiliaeth.

Taclo Troseddau Casineb

Yn agor y gynhadledd fydd y Gweinidog Anghyfartaledd, Jeff Cuthbert, gan esbonio sut mae'r Llywodraeth yn taclo'r mater.

Cyn y gynhadledd, dywedodd: "Rydym yn gwybod mai troseddau yn ymwneud â chasineb hiliol yw'r ffurf uchaf o droseddau casineb sy'n cael eu cofnodi. Rydym hefyd yn gwybod bod nifer o achosion yn dal ddim yn cael eu cofnodi, ac fe all hyn fod am nifer o resymau."

Mae'n dweud y bydd yn ceisio delio â hyn pan fydd yn lansio fframwaith newydd Llywodraeth Cymru ar droseddau casineb ym mis Mai.

Ychwanegodd: "Fel rhan o'r nawdd cymhorthdal Cydraddoldeb a Chynhwysiant newydd gwerth £1.6 miliwn, fe fyddwn yn cefnogi 'Cymorth i Ddioddefwyr'. Mae'r mudiad hwn yn darparu cefnogaeth i bobl sy'n dioddef troseddau casineb, gan gynnwys rhai hiliol."

Fe fydd y Gweinidog hefyd yn siarad am waith y Llywodraeth i ddelio ag anghenion ceiswyr lloches, ffoaduriaid a sipsiwn a theithwyr, ac yn dweud bod angen newid mawr yn yr agwedd a'r gweithredu tuag at y gymuned y sipsiwn a theithwyr.

Straeon perthnasol