Mentrau Iaith eisiau hwb ariannol

Mentrau iaith Cymru
Image caption Mae'r Mentrau yn galw am gyllid o £4.8m gan Lywodraeth Cymru, sydd, yn ôl y mudiad, tua 16c yr wythnos i bob siaradwr Cymraeg.

Mae'r Mentrau Iaith yn galw am fuddsoddiad ychwanegol o £4.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu datblygu a ffynnu yn y dyfodol.

Mae 22 o fudiadau Mentrau Iaith yn gweithredu ledled Cymru, gan ddarparu ystod eang o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a dysgwyr i ddefnyddio'r iaith Gymraeg, ac yn 2012-13, fe dderbynion nhw £1.6 miliwn gan y Llywodraeth.

Mae'r Mentrau yn galw am gyllid o £4.8m gan Llywodraeth Cymru, sydd, yn ôl y mudiad, tua 16c yr wythnos i bob siaradwr Cymraeg.

Mae'r alwad am adnoddau ychwanegol yn dilyn cyhoeddi adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ddechrau Chwefror yn edrych ar waith y Mentrau Iaith.

Roedd yr adroddiad yn dweud bod angen newidiadau mawr i'r ffordd mae'r Mentrau Iaith yn gweithredu, o sut maen nhw'n cael eu hariannu i sut maen nhw'n cydweithio gyda mudiadau eraill.

Roedd angen gwell arweiniad i'r 22 o sefydliadau ac, ymhlith yr argymhellion, roedd galw am gorff cenedlaethol i gydlynu eu gwaith ac am fwy o gynllunio strategol.

Roedd galw hefyd am gyllid sefydlog tymor hir i'r Mentrau er mwyn gallu cynllunio'n well i'r dyfodol.

Galw am £4.8 miliwn ychwanegol

Yn eu hymateb i'r adroddiad, mae'r Mentrau Iaith yn gofyn am £4.8 miliwn yn ychwanegol oddi wrth Llywodraeth Cymru.

Gyda'r arian ychwanegol, bwriad y mudiad yw:

  • datblygu mentrau cymdeithasol a chreu swyddi newydd, fel bod o leiaf 5 aelod o staff craidd i bob Menter, a thîm craidd o staff i Gorff Mentrau Iaith Cymru.
  • cynyddu cyfleoedd gwaith yn y Gymraeg a chreu mwy o weithleoedd Cymraeg
  • codi hyder a sgiliau siaradwyr Cymraeg a marchnata manteision dwyieithrwydd fel sgil

Ar hyn o bryd, mae 300 o aelodau staff gyda'r Mentrau ynghyd â 1,300 o wirfoddolwyr, yn trefnu 13,000 o weithgareddau a digwyddiadau i hybu'r iaith yn flynyddol.

Gwerth am arian

Mae'r Mentrau Iaith yn dweud eu bod yn gallu cynnig gwerth ychwanegol am bob punt gyhoeddus sy'n cael ei fuddsoddi.

Ar hyn o bryd, mae'r Fenter yn derbyn tua £1.7 miliwn y flwyddyn, ac yn ôl y mudiad, mae nhw'n llwyddo i ddenu £2 ychwanegol am bob £1 o fuddsoddiad y Llywodraeth.

Yn 2012/13 derbyniodd y Mentrau £1.6 miliwn a throdd hyn yn drosiant o £5.2 miliwn.

O gymryd yr un cyfartaledd, meddai'r mudiad, gallai cyfraniad o £4.4 miliwn drosi yn £14.3 miliwn.

Mae'r mudiad yn cymharu Cymru â Gwlad y Basg sydd â phoblogaeth a chanran o siaradwyr tebyg i Gymru.

Yno, mae'n debyg bod y Llywodraeth Basgaidd yn buddsoddi hyd at 180 miliwn Ewro y flwyddyn yn hybu'r iaith, sy'n arwain at gynnydd o 5% bob 10 mlynedd.

Yng Nghymru mae buddsoddiad o tua £25 miliwn y flwyddyn wedi arwain at leihad o 2% mewn 10 mlynedd, yn ôl y Mentrau.

"Hwb angenrheidiol"

Yn ôl Penri Williams, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru: "Fel y cyfryw, mae gwaith y Mentrau yn cyfrannu'n dda at ddymuniad y Prif Weinidog i weld cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg".

"Mae'r adroddiad yn cadarnhau'r hyn yr ydym wedi wybod ers blynyddoedd lawer, er bod gan y Mentrau rôl hanfodol i'w chwarae wrth hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg , nid ydynt wedi cael digon o adnoddau am lawer rhy hir."

"Rydym yn cydnabod yn llawn ein bod ni'n wynebu hinsawdd economaidd anodd ar hyn o bryd, ond ar yr un pryd mae rhaid inni gydnabod hefyd bod yr iaith Gymraeg yn wynebu heriau difrifol. Mae'n bodoli ochr yn ochr ag un o'r ieithoedd mwyaf dylanwadol yn y byd. Os yw'r Gymraeg yn colli tir fel iaith ein teuluoedd, ein cymunedau a'n pobl ifanc fe fyddai hi'n anodd iawn, os nad yn amhosib, i'w hadennill yn y dyfodol."

Ychwanegodd Penri Williams: "Byddai ymateb cadarnhaol i'r adroddiad hwn yn rhoi hwb angenrheidiol i'r Mentrau ac felly i'r Gymraeg yn ein cymunedau. Mae'n gyfle i'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i weithredu'n gyflym i ddangos cefnogaeth i'r iaith".

Yn ogystal â chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, mae'r Mentrau hefyd yn galw am fuddsoddiad pellach gan Awdurdodau Lleol ar draws Cymru yn y dyfodol agos wrth i'r Safonau Iaith ddod i rym.

Mae'r Mentrau'n dweud y byddai hyn oll yn arwain at gynyddu defnydd, niferoedd a chanrannau siaradwyr Cymraeg.

Straeon perthnasol