Wrecsam 1 - 1 Salisbury

Neil Ashton Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Neil Ashton sgoriodd i Wrecsam

Fe lwyddodd rheolwr newydd Wrecsam Kevin Wilkin i sicrhau pwynt yn ei gem gyntaf gyda'r clwb.

Y tîm cartref aeth ar y blaen wedi i Neil Ashton lwyddo efo cic o'r smotyn yn dilyn trosedd ar Jay Harris.

Ond fe wnaeth y tîm o Loegr hi'n gyfartal, gyda pheniad gan Clovis Kamdjo yn darganfod cefn y rhwyd gyda'i ben eiliadau cyn yr egwyl.

Er i'r ddau glwb geisio chwilio am gôl i sicrhau'r triphwynt, ofer fu eu hymdrechion.

Fe siaradodd Wilkin gyda BBC Cymru ar ôl y gêm, a dywedodd: "Dydyn ni heb wneud digon i haeddu ennill y gêm. Rydym wedi gorfod brwydro a Salisbury oed yn edrych fwyaf tebygol o sgorio drwy gydol yr ail hanner.

"Wnaethon ni ddim rhoi siawns i'n hunain reoli'r gêm. Mae'r cydlyniant a'r rheoli angen bod yn well.

"Ond mae yna bethau positif i adeiladu arnyn nhw. Mae'r ymdrech yna, sy'n sail da ar gyfer adeiladu."

Straeon perthnasol