Canlyniadau Cynghrair Cymru

Image caption Fe gafodd Jonathan Hill-Dunt ddiwrnod i'w anghofio yn y gôl i Brestatyn

Y Drenewydd 1 - 2 Y Seintiau Newydd

Roedd pwysau ar TNS i guro yma, yn dilyn buddugoliaeth Airbus yn erbyn y Rhyl neithiwr. Fe sgoriodd Michael Wilde ar ôl 12 o funudau, ac roedd hi'n edrych fel bod buddugoliaeth fawr arall i'r Pencampwyr ar y ffordd. Ond dim ond un arall gafodd yr ymwelwyr - Wilde yn sgorio'n gelfydd unwaith eto.

Fe ddaeth y Drenewydd yn ôl gyda gôl o ben Luke Boundford, ond doedd ganddyn nhw ddim digon yn y tanc i fachu ail. Mae'r Seintiau dri phwynt uwchben Airbus nawr, gyda gêm yn ychwanegol i'w chwarae.

Caerfyrddin 0 - 1 Dinas Bangor

Yr hen arwr, Les Davies, wnaeth sicrhau'r triphwynt i Fangor unwaith eto. Roedd ei gôl ar yr awr yn ddigon i guro'r Hen Aur y tro hwn.

Lido Afan 0 - 5 Bala

Doedd yr hen Lido Afan ddim yn yr hwyliau gorau eisoes, yn dilyn y gweir gafon nhw gan Bort Talbot yr wythnos ddiwethaf, pan sgoriodd Rhys Griffiths saith. A doedd pethau ddim gwell y fan hyn, gyda Mark Connolly'n sgorio tair er mwyn dyfnhau'r synnwyr o argyfwng sydd o amgylch Stadiwm Marston's. Ian Sheridan a Stuart Jones gafodd y goliau eraill.

Gap Cei Cona 3 - 0 Aberystwyth

Roedd y rhain yn bwyntiau holl bwysig i'r tîm cartref yn eu brwydr yn erbyn disgyn allan o Uwch Gynghrair Cymru, ac roedden nhw'n llawn haeddu ennill. Luke Holden, Gary O'Toole a Mike Hayes oedd y sgorwyr, sy'n golygu bod Cei Cona un pwynt tu ôl i Brestatyn, gyda gêm yn ychwanegol i'w chwarae.

Port Talbot 2 - 0 Prestatyn

Mae tymor Prestatyn yn mynd o ddrwg i waeth. Sgoriodd Guillem Bauza (gynt o Abertawe) a Gethin Jones i roi'r ymwelwyr, oedd yn chwarae yn Ewrop ddechrau'r tymor, mewn dyfroedd dyfnion.

Straeon perthnasol