Glasgow 14 - 6 Scarlets

Matawalu
Image caption Fe wnaeth Matawalu ddisgleirio yng nghanol y glaw

Niko Matawalu oedd seren y gêm yn yr Alban, ar noson ddiflas i'r Scarlets.

Roedd blaenwyr Glasgow rhy gryf i'r ymwelwyr ac mae'r canlyniad i'w weld yn rhoi diwedd i'w breuddwydion o gyrraedd y gemau ail gyfle.

Daeth cais y dyn o Fiji ar ôl hanner awr wrth iddo lithro drwy'r amddiffyn ar ôl sgrym bum medr.

Yn siarad ar ôl y gêm, dywedodd Ken Owens: "Hynod siomedig. Dim digon o gywirdeb, dim digon o diriogaeth a'r bêl a pan oedden ni'n cael y bêl doedden ni ddim yn dala arni ddigon hir. Roedd gormod o giciau cosb oedd ddim yn angenrheidiol hefyd."

Timau

Glasgow Warriors: Peter Murchie, Tommy Seymour, Richie Vernon, Alex Dunbar, Niko Matawalu, Duncan Weir, Chris Cusiter (capt), Gordon Reid, Dougie Hall, Jon Welsh, Tim Swinson, Jonny Gray, Rob Harley, Chris Fusaro, Josh Strauss.

Eilyddion: Fraser Brown, Jerry Yanuyanutawa, Moray Low, Al Kellock, Leone Nakarawa, Ruaridh Jackson, Mark Bennett, Sean Maitland.

Scarlets: Liam Williams; Kristian Phillips, Jonathan Davies (capt), Olly Barkley, Jordan Williams; 10 Aled Thomas, Gareth Davies; Phil John, Ken Owens, Samson Lee, George Earle, Johan Snyman, Josh Turnbull, Sione Timani, John Barclay.

Eilyddion: Emyr Phillips, Rob Evans, Rhodri Jones, Jake Ball, Richard Kelly, Rhodri Williams, Adam Warren, Gareth Maule.