Cyffuriau dosbarth A: chwech yn y ddalfa

Cocên
Image caption Chwech yn ymddangos o flaen Ynadon yn Llanelli ar gyhuddiadau o gynllwynio i ddosbarthu cocên.

Bydd chwech yn Llys Y Goron Abertawe ar Ebrill 4 ar gyhuddiad o gynllwynio i ddosbarthu cyffuriau dosbarth A.

Redd David James Lloyd Evans, 41 oed o Sanclêr, Jenkin Anthony Davies, 54 o Gynwyl Elfed, Greg Ian McKenzie, 28 o Hendy-gwyn, Thomas Charles Salmon, 33 o Arberth, David Campbell, 57 o Benbedw, ac Richard Andrew Houghton, 30 o Lannau Merswy, yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Llun.

Maen nhw yn y ddalfa.

Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi darganfod cilo o gocên wrth ymchwilio i honiadau o ddelio cyffuriau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac ardaloedd eraill de Cymru.

Dywedodd yr heddlu fod cyfres o gyrchoedd dros y penwythnos o ganlyniad i ymchwiliad hir a manwl.

Yn ôl y Ditectif Arolygydd Huw Davies: "Mae swm sylweddol o gyffuriau wedi'i ddarganfod. Mae taclo cyffuriau dosbarth A yn flaenoriaeth i'r heddlu ac fe fydd unrhyw un sy'n dod â chyffuriau eraill i'r ardal yn cael ei dargedu."