Casnewydd 0 - 0 Bury

Casnewydd v Bury Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd pwynt gwerthfawr i'r ymwelwyr wrth iddyn nhw frwydro'n galed yn erbyn Casnewydd yn Rodney Parade.

Roedd Chris Zebroski a Mike Flynn wedi cael cyfle i anelu am y gôl sawl gwaith ond fe gawson nhw eu harbed bob tro gan y gôl-geidwad Brian Jensen.

Mae'r canlyniad yn gadael tîm Justin Edinburgh yn gyfforddus yn y 12fed safle yn Adran 2, er gwaetha'r ffaith eu bod wedi ennill un gêm yn unig o'r 10 diwethaf.

Mae gêm gyfartal Northampton yn golygu bod Bury rwan yn aros bedwar pwynt un unig i ffwrdd o gael eu symud i adran is.