Cyflyrau cronig: 'Angen gwneud mwy'

Crydcymalau
Image caption Mae crydcymalau ymysg y cyflyrau mae 800,000 o Gymry yn diodde' ohonynt

Mae angen i fyrddau iechyd wneud mwy i wella gwasanaethau i gleifion â chyflyrau cronig, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae traean o boblogaeth Cymru - tua 800,000 o bobl - yn nodi eu bod yn diodde' ag o leiaf un cyflwr cronig fel diabetes, clefyd y galon neu grydcymalau.

Fe ganolbwyntiodd yr Archwilydd Cyffredinol ar y cynnydd sydd wedi'i wneud ers i adroddiad yn 2008 ddod i'r casgliad fod gwasanaethau ar gyfer cyflyrau cronig yn "ddarniog ac wedi'u cydgysylltu'n wael".

Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o strategaethau a pholisiau i geisio symud ffocws gofal yn y Gwasnaeth Iechyd o ysbytai i'r gymuned.

Yn ôl adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol "mae cynnydd wedi'i wneud", gyda mynediad wedi gwella i raglenni addysg cleifion, mwy o nyrsys yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol, a "chleifion yn gallu dod o hyd i wasanaethau cymunedol yn gynt".

'Lle i wella'

Mae gostyngiad wedi bod yn nifer y cleifion sy'n mynd i'r ysbyty ar gyfer rhai cyflyrau cronig, ond mae'r adroddiad wedi dod i'r casgliad bod lle i wella ymhellach.

Mewn sawl bwrdd iechyd "nid yw'r cynlluniau sy'n nodi sut y bydd gofal yn cael ei symud o ysbytai i leoliadau cymunedol yn ddigon clir".

Mae pobl â chyflyrau cronig yn ddefnyddwyr cyson o wasanaethau gofal brys oherwydd pan fo'u hiechyd yn gwaethygu mae angen iddyn nhw gael triniaeth yn gyflym.

Maen nhw ddwywaith mor debygol o fynychu ysbyty a chleifion heb gyflyrau o'r fath.

Ond yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol mae dros hanner y gwasanaethau cymunedol ar gyfer cleifion â chyflyrau cronig ar gael yn ystod dyddiau'r wythnos yn unig.

Mae angen hefyd i'r gwahanol grwpiau o staff sy'n gweithio â'r cleifion yma gael eu cydlynu'n well, yn ôl yr adroddiad.

'Yn galonogol'

Fe ddywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: "Mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud o safbwynt datblygu gwasanaethau ar gyfer pobl â chyflyrau cronig yn galonogol.

"Fodd bynnag, mae'n amlwg bod angen gwneud mwy i fodloni'r twf yn y galw am wasanaethau cyflyrau cronig, sy'n rhwym o ddigwydd wrth i'r boblogaeth heneiddio."

"Mae'n rhaid i'r Byrddau Iechyd barhau i ganolbwyntio ar addysg cleifion er mwyn sicrhau bod hunanofal yn gwella, yn ogystal â cheisio ehangu eu gwasanaethau cymunedol.

"I gefnogi'r gwaith hwn, mae angen gwella'r broses o gasglu gwybodaeth a data ar frys er mwyn sicrhau bod datblygiadau i wasanaethau yn cael eu cynllunio, eu monitro a'u gwerthuso'n briodol."

Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn crosawu'r adroddiad "sy'n dangos bod cynnydd wedi'i wneud gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i wella'r ffordd mae cyflyrau cronig yn cael eu rheoli".

"Ry'n ni'n derbyn bod mwy o waith i'w wneud ar lefel leol i gynllunio a chynnig gwasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol o fewn neu yn agos i gartrefi pobl.

"Fe fyddwn ni nawr yn mynd ati i ystyried argymhellion yr adroddiad yn fanwl ochr yn ochr a'n cynlluniau presennol ar gyfer gwelliannau pellach."

Straeon perthnasol