Bws yn taro rheiliau swyddfa dreth yn Llanisien, Caerdydd

Bws Llanisien Image copyright Wales News Service
Image caption Dim ond y gyrrwr oedd ar y bws pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad

Mae bws wedi taro yn erbyn rheiliau y tu allan i'r swyddfa dreth yn Llanisien, Caerdydd.

Fe gafodd un person fan anafiadau ac mae wedi cael ei gludo i'r ysbyty.

Roedd un lon ar Rodfa Tŷ Glas ar gau yn dilyn y gwrthdrawiad ddigwyddodd tua 18.15.

Dim ond y gyrrwr oedd ar bws ar y pryd, meddai Heddlu De Cymru.

Meddai llefarydd ar ran Bws Caerdydd: "Rydym ni'n gwybod am y digwyddiad yn gynharach heno ar Rodfa Tŷ Glas.

"Rydym ni'n rhoi cymorth i'r awdurdodau."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.