Cymru'n cefnogi Cynghrair Cenhedloedd

Gareth Bale Image copyright PA
Image caption Mae gemau cyfeillgar, fel gêm Cymru yn erbyn Gwlad yr Ia yn ddiweddar, yn aml yn denu niferoedd isel o gefnogwyr

Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhoi ei gefnogaeth i gystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd newydd fyddai'n cymryd lle gemau cyfeillgar rhyngwladol.

Mae'r corff sy'n rheoli pêl-droed Ewropeaidd, Uefa, wedi dweud y bydd y gystadleuaeth yn dechrau yn 2018.

Nid yw'r manylion terfynol wedi eu cadarnhau, ond dywedodd Jonathan Ford bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru am i drafodaethau barhau.

Byddai pedair cynghrair yn y gystadleuaeth, gyda'r gwledydd buddugol yn ennill lle ym Mhencampwriaeth Ewrop.

Cystadleuaeth newydd

Cafodd y cynllun ei gyflwyno gan Uefa ddydd Mercher.

Byddai'r gystadleuaeth yn cymryd lle gemau cyfeillgar rhyngwladol sy'n digwydd mewn blynyddoedd pan nad oes rowndiau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd neu'r Bencampwriaeth Ewropeaidd.

Image caption Dywedodd Jonathan Ford ei fod yn awyddus i drafod y cynllun ymhellach

Byddai gwledydd yn cystadlu mewn cynghreiriau, ac mae'n debyg y byddai Cymru yn chwarae yn y drydydd o'r bedair cynghrair gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Byddai'r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i wledydd yn y cynghreiriau is ennill mynediad i'r Bencampwriaeth Ewropeaidd.

"Dwi'n siwr y bydden ni yn awyddus i barhau'r sgwrs," meddai Jonathan Ford.

"Ni fydd gemau cyfeillgar yn gyfeillgar bellach... fydden nhw yn gemau cystadleuol a bydd cynghrair gyda mwy o strwythur.

"Ni fyddai'r gynghrair yna ar ei phen ei hun chwaith a bydd cyfleoedd i gymhwyso i gystadleuathau eraill yn seiliedig ar ganlyniadau yn y gynghrair."

Y cynllun yw i'r gemau gael eu chwarae ar ddyddiadau gemau cyfeillgar presennol, ond mae Uefa yn dweud y bydd cyfleoedd i dimau gynllunio gemau cyfeillgar gyda thimau o Ewrop a thu hwnt hefyd.

Bydd gwledydd yn pleidleisio ar barhau gyda'r trafodaethau yn Kazakhstan ddydd Iau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.