Glasgow 11 - 9 Gweilch

Glasgow v Gweilch Image copyright SNS
Image caption Roedd y ddau dîm wedi dweud yn gynharach mai'r gêm hon fyddai "yr un fwya'" y tymor hwn.

Buddugoliaeth i'r Albanwyr mewn brwydr ffyrnig yn Glasgow rhwng y tîm cartref â'r Gweilch

Roedd pwysau mawr ar y ddau dîm cyn dechrau'r gêm ac roedd yr hanner cyntaf yn dyst i hynny, gyda Glasgow a'r Gweilch, ill dau, yn llawn penderfyniad.

Dan Biggar oedd yr unig i sgorio unrhyw bwyntiau yn yr hanner cyntaf gyda chic gosb dros y Gweilch.

Roedd Niko Matawalu mor fywiog ag erioed ar ddechrau'r ail hanner ond roedd cryn dipyn o ddiffyg canolbwyntio gan chwaraewr Fijiaidd Glasgow.

Fe ddaru Duncan Weir roi 3 phwynt cynta'r Albanwyr ar y bwrdd yn gynnar yn yr ail hanner, ac roedd cic gosb arall i ddilyn gan eu rhoi ar y blaen 3-6.

Roedd yn rhaid i'r Gweilch daro'n ôl, ac felly y buodd hi, diolch i gicio Dan Biggar unwaith eto i'w rhoi yn ôl yn gyfartal gyda'r tîm cartref.

Yna, wedi i'r Gweilch dorri drwy amddiffyn Glasgow, dim ond tacl gan Sean Maitland ddaru'u hatal rhag sgorio cais.

Yn syth wedi codi ar eu traed, dyma drio eto, a'r tro hwn, Dan Biggar yn disgleirio eto gyda gôl adlam lwyddiannus o 30 metr gan ei gwneud hi'n 6-9.

Roedd unig gais y gêm i Niko Matawalu dros Glasgow, bum munud cyn diwedd y gêm, wedi torri tipyn o ysbryd y Cymry.

Ond fe darodd y trosiad y pyst gan gadw'r gobaith yn fyw i'r Gweilch gyda dim ond pedair munud ar ôl.

Roedd adrenalin Glasgow yn llifo a'r pwysau yn parhau ar y Gweilch.

Roedd hi'n edrych fel petai Finn Russell wedi croesi'r llinell ond dyfarnwyd bod Josh Strauss wedi gwthio'r bêl ymlaen yn gynharach ac ni chafodd y cais ei roi.

Doedd y Gweilch heb eu curo eto, ac roedd ton ar ôl ton o ymosod ym ymddangos fel tae gôl adlam arall ar y gweill gan Dan Biggar, ond fe wnaeth Matawalu yn siwr nad felly y bu.

Roedd hon yn fuddugoliaeth hollbwysig i Glasgow.

"Gêm fwya'r tymor"

Roedd y ddau dîm wedi dweud yn gynharach mai'r gêm hon fyddai "yr un fwya'" y tymor hwn.

Mae'r Gweilch nawr yn aros yn y pedwerydd safle gyda 52 o bwyntiau, ond dim ond un pwynt sydd rhyngddyn nhw â Glasgow, ac mae gan yr Albanwyr ddwy gêm mewn llaw.

Roedd Prif Hyfforddwr Glasgow Gregor Townsend wedi dweud yn gynharach bod eu "buddugoliaeth y penwythnos diwetha' erbyn y Scarlets yn bwysig ond mae gêm heno'n hollbwysig. Mae'r Gweilch yn gorfforol iawn a rhaid i ni amddiffyn yn gadarn."

Roedd hyfforddwr blaenwyr y Gweilch wedi dweud ei fod yn cytuno a'i fod yn "disgwyl brwydr ffyrnig" ac felly y bu.

Y TIMAU

Glasgow: Peter Murchie, Tommy Seymour, Alex Dunbar, Finn Russell, Niko Matawalu, Duncan Weir, Chris Cusiter (capten), Gordon Reid, Pat MacArthur, Jon Welsh, Leone Nakarawa, Jonny Gray, Rob Harley, Chris Fusaro, Josh Strauss.

Eilyddion: Dougie Hall, Jerry Yanuyanutawa, Moray Low, Ryan Wilson, Tyrone Holmes, Ruaridh Jackson, Richie Vernon, Sean Maitland.

Gweilch: Sam Davies, Jeff Hassler, Hanno Dirksen, Jonathan Spratt, Aisea Natoga; Dan Biggar, Rhys Webb; Duncan Jones, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, James King, Alun Wyn Jones (capten), Sam Lewis, Dan Baker, Justin Tipuric.

Eilyddion: Scott Otten, Nicky Smith, Adam Jones, Tyler Ardron, Morgan Allen, Joe Bearman, Tom Habberfield, Richard Fussell.

Dyfarnwr: John Lacey (Undeb Rygbi Iwerddon)

Straeon perthnasol