Canlyniadau Cynghrair Cymru

Canlyniadau rhai o gemau Cynghrair Cymru:

Aberystwyth 7 - 1 Lido Afan

Roedd Aberystwyth wedi sgorio dwy gôl cyn yr hanner amser.

Fe ddaeth y cyntaf gan C Williams wedi 10 munud a'r ail gan C Venables wedi 26 munud.

Yn yr ail hanner, cafodd Venables gyfle arall, gan sgorio'i ail gôl o'r gêm wedi 57 munud.

Roedd y goliau'n llifo i Aberystwyth wrth i C. Davies sgorio ar ôl 63 munud a C. Williams yn cipio'i ail o'r noson wedi 66 munud.

Ond fe darodd Lido Afan yn ôl i roi pwynt ar y bwrdd gyda gôl gan C. Harris.

Ond noson Venables oedd hi, gyda'r ymosodwr yn sgorio'i drydedd dros Aberystwyth wedi 72 munud.

Tro L.Sherbon oedd hi wedyn i sgorio dros Aberystwyth gyda llai na 10 munud i fynd.

Fe orffennodd y gêm gydag Aberystwyth yn bell ar y blaen.

Y Seintiau Newydd 2 - 1 Rhyl

Y Seintiau Newydd ar y blaen ar yr hanner wedi gôl gan M.Williams 13 munud i mewn i'r gêm.

Ond daeth M Woodward i sgorio dros y Rhyl wedi 65 munud i'w gwneud hi'n gyfartal.

Ond pharodd mo hynny'n hir gyda gôl hwyr i K Edwards dros y Seintiau Newydd.