Anafiadau difrifol i ferch 10 oed wedi gwrthdrawiad

Gwrthdrawiad Hwlffordd Image copyright Pembrokeshire Herald
Image caption Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg wedi'r gwrthdrawiad

Mae merch 10 mlwydd oed wedi ei chludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda cherbyd yn Hwlffordd.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i'r digwyddiad ychydig wedi 12:20 ddydd Sadwrn, ar yr A4076 Freeman's Way, yn y dref.

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod ond mae wedi ail-agor bellach.

Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg mewn cyflwr difrifol.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd sydd â gwybodaeth all helpu'r ymchwiliad i gysylltu ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.