Casnewydd 1 - 2 Portsmouth

Casnewydd Portsmouth Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Portsmouth wedi cipio buddugoliaeth hollbwysig yn erbyn Casnewydd yn yr Ail Adran ddydd Sadwrn.

Aeth Casnewydd ar ei hol hi ar ol trosedd Kevin Feely ar Ryan Taylor yn y cwrt cosbi. Doedd Taylor heb ei anafu a sgoriodd y gic o'r smotyn ei hun.

Cafodd Adam Chapman gerdyn coch am dacl wael, cyn i Darcy Blake gael ei yrru o'r cae hefyd am ail gerdyn melyn.

Peniodd Jed Wallace i ddyblu sgôr Portsmouth, ond llwyddodd Ismail Yakubu i dynnu un yn ol o gornel.

Dywedodd rheolwr Casnewydd, Justin Edinburgh: "Dwi'n falch o'r chwaraewyr, hyd yn oed gyda naw dyn fe wnaethon ni herio Portsmouth ac roeddwn i'n meddwl ein bod ni'n haeddu cael rhywbeth allan o'r gêm.

"Roedd y ddau gerdyn melyn i Darcy Blake, mae hynny'n digwydd, ac rydyn ni'n siomedig hefo Adam Chapman, nid yw yn ei natur ac mae wedi bod yn gostus iawn."

Straeon perthnasol