Woking 2 - 1 Wrecsam

Logo Wrecsam

Mae Woking wedi symud uwchben Wrecsam yn y Gyngres wedi buddugoliaeth dros y Cymry ddydd Sadwrn.

Joe Jones sgoriodd y gôl fuddugol wedi i gôl-geidwad Wrecsam, Andy Coughlin fethu a dal pêl uchel.

Jones oedd ar ochr y cwrt cosbi i saethu i'r rhwyd.

Roedd Scott Rendell wedi rhoi Woking ar y blaen, cododd y bêl dros Coughlin o bas Jack Marriott.

Roedd Wrecsam wedi dod yn gyfartal o fewn munudau wrth i Johnny Hunt rwydo o gic cosb Dean Keates.

Ond doedd y Dreigiau methu a manteisio, ac mae Woking yn symud uwch eu pennau i'r 16eg safle.

Straeon perthnasol