Cynllun datblygu: 'angen balans'

Protest Cymdeithas yr Iaith
Image caption Roedd cannoedd o brotestwyr ar y Maes yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn

Mae gwrthwynebwyr i gynllun i adeiladu tai newydd ar draws Gwynedd a Môn dros y ddegawd nesaf yn dweud y gall fod yn drychinebus i'r iaith Gymraeg.

Cafodd rali ei gynnal yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn i brotestio yn erbyn y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw i'r cynllun gael ei ohirio tra bod yr angen am dai a gwasanaethau yn cael ei asesu.

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd wrth raglen Sunday Politics bod y cyngor yn ceisio creu balans rhwng pryderon am yr iaith a'r angen am dai fforddiadwy.

8,000 o dai

O dan gynlluniau Gwynedd a Môn, byddai 8,400 o dai newydd yn cael eu hadeiladu erbyn 2026.

Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol lunio Cynllun Datblygu Lleol sy'n amlinellu faint o dai newydd sydd eu hangen a lle y dylen nhw fod.

Mae ymgyrchwyr iaith yn honni nad oes asesiad llawn o'r anghenion am dai yng Ngwynedd a Môn wedi bod.

Dywedodd Ben Gregory o Gymdeithas yr Iaith bod angen am dai fforddiadwy ond mae'n poeni nad oes tystiolaeth i ddangos bod arian ar gael i ddarparu tai fforddiadwy.

"Bydd y bobl sy'n gallu fforddio'r tai yng Ngwynedd yn dod o du allan i'r sir," meddai.

"Ni fydd y bobl sy'n symud yn siarad Cymraeg ac mae'n debyg na fydden nhw'n dysgu.

"Rydyn ni wedi gweld dros y 10 mlynedd diwethaf gyda chanlyniadau'r cyfrifiad diweddar bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi lleihau yn sylweddol.

"Gyda mwy a mwy o dai yn cael eu hadeiladu ar gyfer pobl sy'n symud i mewn o du allan i'r sir, fydd hynny ond yn cael effaith mwy ac yn rhoi mwy o bwysau ar yr iaith Gymraeg."

'Tystiolaeth Gadarn'

Image caption Dywed Dyfed Edwards bod angen balans rhwng yr angen am dai, a'r effaith ar yr iaith

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, yn dweud bod y cynlluniau wedi seilio ar dystiolaeth gadarn ac ymgynghoriad gyda chymunedau.

Dywedodd y cynghorydd Plaid Cymru bod yr effaith ar yr iaith Gymraeg wedi cael ei ystyried.

Dywedodd mai'r bwriad yw creu balans: "Ar yr un llaw mae angen cofleidio'r iaith Gymraeg a sicrhau ei fod yn rhywbeth rydyn ni'n rhoi digon o ystyriaeth iddo mewn unrhyw gynllun datblygu, ond hefyd yn sicrhau bod gyda ni ddigon o dir i adeiladu tai o fewn y pris y mae pobl yn gallu fforddio."

Mae cynghorwyr Gwynedd yn dweud bod canolbwyntio ar 8,000 o dai newydd yn gamarweiniol.

Yn ol ffigyrau gan y cyngor, 4,700 o gartrefi sydd wedi eu clustnodi ar gyfer Gwynedd.

O'r rheiny, maen nhw'n dweud bod 1,800 eisoes wedi eu darparu neu wedi cael caniatâd cynllunio.

Maen nhw'n dadlau y bydd 1000 arall o gartrefi yn cael eu creu o adeiladau sydd eisoes yn sefyll mewn trefi mwy, gan adael llai na 2,000 o gartrefi i'w hadeiladu ar dir sydd heb ei ddatblygu.

Ysgrifennodd un cynghorydd Plaid Cymru wrth gyd-weithwyr i rybuddio y gall y blaid ddioddef mewn etholiadau o ganlyniad i'r ddadl.

Dywedodd Liz Saville Roberts, ymgeisydd am sedd Dwyfor Meirionnydd, ei bod hi'n poeni y gall sedd Arfon fod mewn perygl yn etholiad y flwyddyn nesaf.

Mae arweinydd y cyngor wedi dweud nad yw'n rhannu'r farn, a honnodd bod "pobl yn edrych am blaid... fydd yn ymateb i'r agenda yr ydyn ni'n wynebu" o ddelio gyda'r angen am dai tra'n amddiffyn yr iaith.

Mae cynlluniau Gwynedd a Môn yn ddibynnol ar ymgynghoriad a bydd y fersiwn olaf o'r cynllun yn cael ei gymeradwyo yn 2016.

Sunday Politics, BBC 1 Cymru, 11:00

Straeon perthnasol