Gleision 28 - 23 Ulster

Gleision Ulster Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd y Gleision i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Ulster yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Aeth y tîm cartref i mewn i'r gêm wedi ennill ond pedair gem ac yn wynebu'r posibilrwydd o orffen yn olaf o dimau Cymru yn y Pro12.

Ond wedi iddyn nhw fynd ar y blaen o 22 - 5 erbyn yr egwyl, llwyddon nhw i ymosodiad Ulster allan yn yr ail hanner.

Darren Cave sgoriodd i'r ymwelwyr, tra bod Robin Copeland wedi croesi'r linell i'r Gleision.

Ciciodd Gareth Davies saith cic gosb i gymharu â chwech Paddy Jackson.

Mae'r golled yn niweidio gobeithion Ulster o gyrraedd gemau'r ail gyfle.

Gleision 28 - 23 Ulster

Gleision: D Fish; A Cuthbert, C Allen, I Tuifua, C Czekaj; G Davies, L Jones; G Jenkins (capt), K Dacey, T Filise, L Reed, F Paulo, M Cook, J Navidi, R Copeland.

Eilyddion: M Rees, T Davies, S Andrews, J Down, E Jenkins, L Williams, S Humberstone, G Evans.

Ulster: J Payne; T Bowe, D Cave, L Marshall, A Trimble; P Jackson, M Heaney; T Court, R Herring, J Afoa; J Muller (capt), D Tuohy; S Ferris, C Henry, N Williams.

Eilyddion: N Annett, A Warwick, R Lutton, I Henderson, R Diack, S Doyle, P Marshall, C Gilroy.

Straeon perthnasol