Cwest i achos damwain ar yr M5 i ail gychwyn

Emergency services attending the scene of the M5 pile-up in 2011 Image copyright PA
Image caption Cafodd saith o bobl eu lladd wedi'r ddamwain ar draffordd yr M5

Yn Llys y Goron Taunton bydd crwner yn ail ddechrau cwest i achos marwolaeth saith o bobl ar draffordd yr M5 yng Ngwlad yr Haf.

Digwyddodd y ddamwain ym mis Tachwedd 2011 ar yr M5 ger Taunton.

Mi gafodd y cwest gwreiddiol ei ohirio ar ôl i Geoffrey Counsell wynebu cyhuddiad o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle. Mi oedd o wedi trefnu arddangosfa tân gwyllt ar gaeau rygbi yn Taunton.

Ym mis Rhagfyr roedd yn ddi-euog o'r cyhuddiad.

Cafodd saith o bobl eu lladd a 51 eu hanafu yn y ddamwain rhwng 30 cerbyd.

Ymhlith y rhai wnaeth golli eu bywydau roedd y pâr o Gasnewydd, Tony a Pamela Adams.

Mae disgwyl i'r cwest, sydd yn digwydd yn llys y goron Taunton, bara sawl wythnos.

Straeon perthnasol