Pysgotwr wedi marw ar y môr ym Mhen Llŷn

Mae pysgotwr 36 oed wedi marw ar ôl cael ei anafu ar y môr ddydd Sul.

Mi oedd Gareth Jones yn dod o Forfa Nefyn.

Cafodd Bad Achub Porthdinllaen a hofrennydd y Fali eu gyrru i Ben Llŷn am 3.15 y prynhawn.

Mae crwner Gogledd Cymru wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac mae post mortem ddydd Llun.