Bwrdd gweithredol Sir Gâr o blaid adroddiad iaith

Cyngor Sir Gâr
Image caption Bydd y cyngor llawn rwan yn edrych ar yr adroddiad

Mae bwrdd gweithredol Cyngor Sir Gâr wedi pleidleisio o blaid derbyn adroddiad sydd yn cynnig argymhellion i gryfhau'r Gymraeg yn y sir.

Ar ôl i ganlyniadau'r cyfrifiad yn 2011 ddangos bod cwymp wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir, aeth y cyngor ati i sefydlu grwp trawsbleidiol i edrych ar y mater.

Roedd y ffigyrau yn dangos bod llai na hanner y boblogaeth yn medru siarad Cymraeg yn 2011, cwymp o dros 6% o'i gymharu gyda 2001.

Dyma'r tro cyntaf erioed i nifer y siaradwyr Cymraeg fod mewn lleiafrif yn sir Gaerfyrddin.

Cafodd adroddiad ddydd Llun ei gyhoeddi gan y grwp traws pleidiol oedd gyda dros 70 o argymhellion. Roedden nhw'n argymell blaenoriaethau mewn wyth maes, gan gynnwys addysg.

'Un cyfle'

Mi gododd un o aelodau'r bwrdd gweithredol, y cynghorydd Meryl Gravell bryderon ynglŷn â'r argymhelliad y dylai'r cyngor yn y pendraw fod yn gweithredu trwy'r Gymraeg rhan fwyaf o'r amser.

Mi ddywedodd hi mewn cyfarfod bod y cynnig yn ei "dychryn" a bod angen i'r sir fod yn "agored ar gyfer busnes ac i bobl fuddsoddi". Dywedodd hefyd bod yna ddyletswydd ar yr awdurdod i ddenu'r staff gorau.

Yn ôl yr arweinydd, Kevin Madge, "mae'n rhaid newid pethau ar frys", ac ychwanegodd y dirprwy brif weithredwr Chris Burns fod yr iaith "mewn sefyllfa eitha' bregus ar hyn o bryd".

Dywedodd cadeirydd y grŵp, Cefin Campbell, fod gan gynghorwyr "un cyfle i achub y Gymraeg yn y sir... ac mae'r cyfle hwnnw wedi dod heddiw." Ychwanegodd nad oedd unrhyw beth "yn yr adroddiad sydd yn fygythiad i neb".

Mae'r adroddiad wedi ei dderbyn gan aelodau'r bwrdd gweithredol. Mi fydd y cyngor llawn rwan yn craffu ar yr adroddiad ac mi fydd ymgynghoriad cyhoeddus hefyd yn digwydd.

'Erbyn yr Eisteddfod'

Mewn ymateb i benderfyniad y bwrdd gweithredol, galwodd Sioned Elin, cadeirydd rhanbarthol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ar i gynllun fod mewn lle erbyn Prifwyl Sir Gâr ym mis Awst.

Meddai: "Rydyn ni'n falch bod yr argymhellion hyn wedi eu derbyn ac yn disgwyl nawr y bydd amserlen a chynllun gweithredu yn barod erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol - bydd llygaid Cymru gyfan ar Sir Gaerfyrddin bryd hynny ac rydyn ni'n bwriadu trefnu parti mawr ar y maes i ddathlu gweledigaeth a blaengaredd Sir Gaerfyrddin, fel esiampl i weddill Cymru."

Ychwanegodd hi fod hi'n gobeithio y byddai'r gweithgor nawr yn rhoi sylw pellach i dri maes penodol - sef yr iaith sy'n cael ei defnyddio gan y cyngor ei hun, cynlluniau i adfer yr iaith mewn ysgolion a chymunedau, ac effaith datblygiadau tai newydd ar gymunedau.

"Erbyn hynny rydyn ni hefyd yn gobeithio bydd y Gweithgor wedi cael amser i fynd i'r afael â'r tri gwendid rydyn ni wedi eu hadnabod yn yr adroddiad. Bydd eu gweithredu nhw yn sicrhau fod gwneud y mwyaf o waith da'r Gweithgor, a bod dilyniant cynaliadwy," meddai.

Straeon perthnasol