Mwy o enwau i Ŵyl Dinefwr

Parc Dinefwr Image copyright National Trust
Image caption Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ym Mharc Dinefwr

Mae rhagor o enwau wedi eu cyhoeddi ar gyfer Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr, sy'n cael ei chynnal ym Mharc a Chastell Dinefwr ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, ym mis Mehefin.

Bydd Gruff Rhys yn dychwelyd i berfformio'i stori antur aml-blatfform 'I Grombil Cyfandir Pell / American Interior' - prosiect sy'n adrodd stori wir am ei berthynas pell John Evans, y teithiwr o'r 18fed ganrif.

Ymhlith yr enwau eraill bydd y cerddorion Charlotte Church a Cate Le Bon, a'r cyflwynydd radio Huw Stephens.

Mae Cate Le Bon yn hanu o Sir Gâr a dyma fydd ei hunig berfformiad yng Nghymru cyn ei thaith trwy Brydain yn ystod yr hydref.

Mae'r ŵyl dridiau ddwyieithog yn cynnwys cyflwyniadau gan awduron cenedlaethol a rhyngwladol, a beirdd ac enwau newydd o'r byd llenyddol Cymraeg a Saesneg. Yn ôl y trefnwyr mae'r wŷl yn cynnig rhywbeth i'r teulu cyfan gan gynnwys teithiau cerdded, cerddoriaeth fyw, celf, sinema a gweithgareddau i blant.

Gan fod eleni'n nodi canmlwyddiant Dylan Thomas, bydd yna ddigwyddiadau trwy gydol y penwythnos i ddathlu ei fywyd a'i waith, gan gynnwys sied sy'n cyfateb yn union i sied ysgrifennu wreiddiol Dylan Thomas ar y safle; sioe fyw Dylan ar Daith - perfformiad dwyieithog yn olrhain tarddiad hip hop yn ôl i ymweliad y Cymro ifanc ag Efrog Newydd ym 1952 trwy gyfuniad o jazz, barddoniaeth a hip hop; a gweithgareddau eraill gan gynnwys sesiwn am Dylan Thomas a Bob Dylan.

Bydd yna hefyd drafodaethau ar bwnc ffeministiaeth, gyda siaradwyr fel Charlotte Church, Kat Banyard, sylfaenydd y sefydliad UK Feminista, a Laura Bates, sefydlydd y prosiect Everyday Sexism.

Enwau eraill sydd wedi eu cadarnhau ar gyfer yr wŷl yw'r bardd Owen Sheers, Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke a'r gyflwynwraig radio, Beti George.

Cynhelir digwyddiadau'r ŵyl yn Nhŷ Newton, adeilad o'r 17eg ganrif sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mewn pebyll mawr ar dir y Parc. Eleni, bydd y Castell hynafol, sydd i'w ganfod ar waelod llwybr drwy'r goedwig, yn llwyfan i berfformiadau sydd wedi'u comisiynu'n arbennig ar gyfer y lleoliad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.