Lansio Menter Iaith Bangor yn swyddogol

Menter Iaith Bangor Image copyright Elgan/BBC
Image caption Y dylunydd Eli Intriligator a chadeirydd Menter Iaith Bangor, Menna Baines, gyda'r logo newydd

Mae Menter Iaith newydd wedi cael ei lansio yn swyddogol ym Mangor, gyda digwyddiad yng nghartre' clwb pêl-droed y ddinas yn Nantporth nos Lun.

Yn ystod y noson cafodd logo newydd y fenter ei ddatgelu - gwaith y dylunydd Eli Intriligator, disgybl blwyddyn naw yn Ysgol Uwchradd Friars.

Ond roedd y trefnwyr yn dweud mai "chwerw felys" yw'r teimlad eu bod wedi gorfod mynd ati i sefydlu Menter Iaith mewn dinas sydd i fod yn un o gadarnleoedd yr iaith.

Dangosodd ffigyrau'r Cyfrifiad diwethaf bod y nifer y siaradwyr Cymraeg ym Mangor wedi gostwng 10% mewn degawd - o 45% yn 2001 i 35% erbyn 2011.

'Chwerw-felys'

Yr actores a chyfarwyddwr, Ffion Dafis, yn wreiddiol o Fangor, oedd llywydd y noson.

Meddai: "Mae'n deimlad chwerw-felys sylweddoli bod angen Menter Iaith yma ym Mangor.

"Mae cymdeithas yn newid, yn datblygu ac esblygu, ac mae Bangor yn ddinas gosmopolitan gyda'r brifysgol ac ysbyty. Er mwyn i'r iaith ffynnu mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd i wneud gwir gyfraniad."

Esboniodd cadeirydd y fenter, Menna Baines, bod angen "brand a logo" i'r Fenter a dyna pam eu bod wedi cynnal cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd y ddinas a myfyrwyr coleg.

Meddai: "Cefndir y fenter yw ffigyrau'r Cyfrifiad diwethaf wnaeth ddangos gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg ar draws bob un o wardiau Bangor, sy'n frawychus.

"Mae awydd gwneud rhywbeth i atal y dirywiad, i hybu ac ehangu'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y ddinas fel ei bod yn rhan ganolog o fywyd, gyda mwy yn ei siarad ar fuarth ysgolion ac yn y siopau.

"Rydym yn teimlo cyfrifoldeb i atal dirywiad y Gymraeg fel iaith lafar sy'n perthyn i'r bobl."

Ers y cyfarfod cynta' ym mis Medi i drafod y posibilrwydd o lansio Menter Iaith ym Mangor, dywedodd Ms Baines eu bod yn awr mewn sefyllfa i chwilio am swyddfa a chyflogi swyddog i sefydlu cynllun ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal, mae'r fenter yn cydnabod bod yn rhaid cydweithio gyda siaradwyr ieithoedd eraill yn y ddinas, yn ogystal â chefnogi dysgwyr, sy'n "allweddol" i ddyfodol yr iaith.

Roedd nifer o ddysgwyr yn y lansiad nos Lun, gan gynnwys Carwen Rehman a'i merch, Mala, oedd wedi dod yr holl ffordd o Landudno i gefnogi'r fenter.

Pwysigrwydd dysgwyr

Image copyright Elgan/BBC
Image caption Mae dysgwyr fel Carwen a Mala Rehman yn teimlo bod angen newid agwedd tuag at rai sy'n dysgu Cymraeg

Mae'r ddwy yn dysgu Cymraeg ac yn teimlo bod angen i siaradwyr rhugl newid eu hagwedd tuag at ddysgwyr.

Meddai Mrs Rehman, sy'n rhedeg gwesty yn Llandudno: "Dydw i ddim yn meddwl bod ysgolion yn dysgu Cymraeg yn iawn oherwydd dydi'r plant ddim yn siarad Cymraeg y tu allan i'r ysgol.

"Mae angen rhoi mwy o bethau ymlaen tu allan i'r ysgol.

"Hefyd mae angen i siaradwyr Cymraeg siarad gyda dysgwyr yn yr iaith.

"Mae pobl yn rhy barod i droi i'r Saesneg. Mae angen rhoi amser i ddysgwyr ymateb, oherwydd mae angen meddwl am y geiriau."

Straeon perthnasol