Treth incwm: 'diffyg polisi clir,' medd Plaid Cymru

Jonathan Edwards
Image caption Mae Mr Edwards yn dweud bod yna ddiffyg eglurder

Dyw gweledigaeth y Blaid Lafur ar gyfer mwy o bwerau ariannol ac ariannu tecach ar gyfer Cymru ddim yn glir, yn ôl Plaid Cymru.

Dywedodd yr AS Jonathan Edwards fod yna wahaniaeth barn rhwng y Prif Weinidog Carwyn Jones, arweinydd Llafur, Ed Miliband a llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith.

Ond mae Mr Smith wedi honni bod barn y Blaid Lafur ar y mater yn glir.

Dywedodd Mr Edwards: "Ym mhob cornel o Brydain mae'r Blaid Lafur yn adrodd hanes gwahanol ac mae'n hen bryd eu bod nhw'n cael eu galw i gyfri oherwydd eu rhagrith.

"Ar fater diwygio fformiwla Barnett, sydd yn golygu bod Cymru yn colli tua £400m y flwyddyn, mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dadlau bod angen newid.

"Ond dros y penwythnos dywedodd arweinydd Llafur Ed Miliband yng nghynhadledd y blaid fod fformiwla Barnett wedi bod o fudd i Gymru. Mae'n ategu sylwadau llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith, rai misoedd yn ôl."

Cafodd Bil Cymru ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn Mawrth.

Dim undod

Honnodd Mr Edwards nad oedd undod yn safbwynt y Blaid Lafur ynglŷn â'r "cam clo," y cymal sy'n rhwystro Llywodraeth Cymru rhag amrywio treth bandiau unigol.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud nad ydyn nhw'n fodlon rhoi'r hawl i Gymru newid bandiau unigol treth incwm, hyd yn oed wedi pleidlais 'Ie' mewn refferendwm.

Er bod Mr Smith wedi dweud mai "trap Ceidwadol" oedd hyn, meddai Mr Edwards, erbyn hyn mae'n derbyn y "cam clo" mewn egwyddor.

"Mae'r diffyg eglurder a chydlyniad yn sarhad ar bobol Cymru," meddai.

Gwadu

Gwadu hyn mae Mr Smith ddywedodd na fyddai datganoli treth incwm yn flaenoriaeth i'r Blaid Lafur a bod angen refferendwm i benderfynu'r mater.

"Ni wnaiff Llafur adael i dreth incwm gael ei defnyddio ... fel ffordd i gyflwyno toriad mewn trethi i'r rhai mwyaf cyfoethog ... a hynny tra bod y mwyafrif o bobl yn wynebu argyfwng am fod byw yn fwy drud.

"Er hynny, mi fydden ni'n rhoi y pŵer i Lywodraeth Cymru warchod rhag mwy o doriadau trethi i'r rhai cyfoethog yn y dyfodol.

"Bydden ni yn gwneud hynny trwy alluogi Cymru i adfer y gyfradd 50c ar gyfer pobl sy'n ennill mwy na £150,000."

Straeon perthnasol