David Cameron: Gwasanaeth Iechyd Cymru yn 'sgandal'

David Cameron
Image caption Mae David Cameron yn dweud y dylai Prif Weinidog Cymru fuddsoddi mwy yn y Gwasanaeth Iechyd

Mae cyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn "sgandal," yn ôl y Prif Weinidog David Cameron. Mi wnaeth ei sylwadau yn ystod Sesiwn Cwestiynau gyda'r Prif Weinidog.

Dyma'r honiad mwyaf diweddar mewn ffrae chwerw rhwng Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Lafur Cymru am safon y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae Llafur yn dweud bod ymosodiadau geiriol y Ceidwadwyr ar y mater yn gyfystyr â "rhyfel y Torïaid ar Gymru".

Ond mae Gweinidogion San Steffan yn dweud bod rhestrau aros yn hirach yng Nghymru a bod targedau ddim yn cael eu cyrraedd.

Dywedodd Mr Cameron: "A siarad yn blaen, mae'r hyn sydd yn digwydd yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn sgandal a chyfrifoldeb llwyr y Blaid Lafur mewn llywodraeth yng Nghymru yw'r sgandal.

'Torri gwariant'

"Fe benderfynon nhw dorri gwariant y Gwasanaeth Iechyd 8% yng Nghymru. O ganlyniad i hynny, dydyn nhw ddim wedi cyrraedd targed yr uned gofal brys ers 2009."

Heriodd arweinydd Llafur, Ed Miliband, i wneud rhywbeth am y sefyllfa.

"Os yw'n ddigon dewr, ag unrhyw asgwrn cefn, fe fyddai'n cysylltu gyda Phrif Weinidog Cymru ac yn dweud wrtho am ddechrau buddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru,"

Roedd y Prif Weinidog yn ymateb i gwestiwn Aelod Seneddol Sir Fynwy David Davies.

Roedd y gwleidydd Ceidwadol wedi cyfeirio at achos un o'i etholwyr, Mariana Robinson o Llaneuddogwy sy' am i'r Gwasanaeth Iechyd adael iddi barhau i dderbyn triniaeth ganser yn Lloegr.

Straeon perthnasol