'Defnydd isel' o'r Gymraeg yn y Cynulliad

Siambr y Cynulliad
Image caption Fe ddywed Cymdeithas yr Iaith bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn siambr y Senedd 12.3% o'r amser dros gyfnod o 14 mis

Mae mudiad iaith wedi dweud y dylai'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol "fod yn destun embaras" i'r sefydliad.

Fe ddaw datganiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dilyn gwaith ymchwil gan y mudiad am faint o Gymraeg sydd i'w glywed yn siambr y Senedd.

Yn ôl ffigyrau Cymdeithas yr Iaith, 12.3% o'r cyfraniadau yn y cyfarfodydd llawn sydd yn Gymraeg, ac maen nhw'n pwysleisio bod traean o'r aelodau yn medru'r Gymraeg.

Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg dros Lywodraeth Cymru, ac mae'n siarad Cymraeg yn y siambr am 18% o'r amser yn ôl gwaith ymchwil y Gymdeithas, tra bod llefarydd y Ceidwadwyr ar yr iaith, Suzy Davies AC wedi gwneud 8% o'i chyfraniadau yn y Gymraeg.

'Dangos i eraill'

Roedd Ms Davies yn credu ei bod hi'n esiampl dda i eraill gan ddweud: "Fel dysgwr mae 'di bod yn anodd weithiau i benderfynu siarad yn Gymraeg.

"Rwy'n siarad 8% yn fwy nag oeddwn i cyn dysgu, a'r peth pwysig yw bod dysgwr yn y siambr i ddangos i eraill bod e'n syniad iawn i drio siarad Cymraeg o gwbl.

"Rwy'n defnyddio'r Gymraeg pan rwy'n teimlo'n ddigon hyderus i wneud hynny, ond os ydw i am wneud pwynt yn gadarn rwy'n teimlo bod angen troi at fy iaith gyntaf ac rwy'n siarad Saesneg."

'Profiad a gwers'

Mae ffigyrau ymchwil Cymdeithas yr Iaith yn delio gyda chyfnod o 14 mis rhwng Ionawr 2013 a Mawrth 2014.

Mae aelod y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts yn siarad mwy o Gymraeg - 37%. Ond mae'n dweud fod natur y swydd hon wedi golygu bod yn rhaid addasu i weithio'n ddwyieithog. Dywedodd:

"Rhaid cofio nad ydw i wedi arfer defnyddio'r Gymraeg ym myd busnes nag fel aelod o Gyngor Wrecsam lle dydi pawb ddim yn gallu siarad Cymraeg.

"Felly mae hyn wedi bod yn brofiad ac yn wers i mi ynglŷn â'r ffaith ein bod ni yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd ym mhob cyfarfod o'r cynulliad."

Gofynnodd y BBC i swyddfa Carwyn Jones am ymateb i'r ffigyrau gan Gymdeithas yr Iaith, ond gwrthodwyd y cais.

AC Plaid Cymru yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas sydd yn gwneud y defnydd mwyaf o'r Gymraeg yn y siambr - 96%. Mae'n honni bod y Cynulliad yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, gan ddweud:

"Dwi'n neud o achos 'dwi yn dewis gweithio drwy'r Gymraeg. Mae hi yn bosib gan ein bod ni yn sefydliad gyda deddf ieithoedd a chynllun iaith ardderchog i weithio yn Gymraeg o ddewis drwy'r amser."

'Dim cynnydd go iawn'

Roedd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Farrar, yn anghytuno. Dywedodd:

"Mae'r ffigyrau hyn yn dangos nad yw ein Cynulliad Cenedlaethol yn llwyddo i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae defnydd o'r Gymraeg yn parhau i fod yn isel iawn; does dim cynnydd go iawn wedi bod ers dechrau datganoli.

"Mae nifer o sefydliadau yn gwneud llawer yn well - a dylai hynny fod yn fater o gryn embaras i'n fforwm democrataidd cenedlaethol.

"Nid yw'r Cynulliad yn sefydliad gwirioneddol Gymraeg, er gwaethaf ei ymrwymiadau cyhoeddus - rhaid i hynny newid.

"Nid ydym am feirniadu unigolion am eu defnydd o'r Gymraeg, oherwydd bod eu penderfyniadau unigol yn cael eu llywio gan systemau a'r hinsawdd ieithyddol yn y Cynulliad.

"Mae'r gwahaniaeth ynghylch defnydd yr iaith rhwng y gwahanol bleidiau gwleidyddol yn awgrymu bod gwaith i'w wneud o ran gwella'r diwylliant o fewn rhai o'r pleidiau hynny. Gobeithio y byddan nhw'n edrych ar ffyrdd i ehangu ei defnydd ar bob achlysur."

Mae Comisiwn y Cynulliad yn dweud eu bod nhw'n parhau i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg gan ychwanegu eu bod nhw'n gobeithio y bydd y ganran o gyfraniadau yn y Gymraeg ym mhob elfen o weithgaredd y Cynulliad yn parhau i gynyddu.

Ychwanegodd y Comisiwn bod y ffaith fod nifer yn defnyddio'r Gymraeg yn helaeth yn brawf nad oes unrhyw rwystr i wneud hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg bod rôl i Aelodau'r Cynulliad i ddangos esiampl drwy ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.