Dreigiau 19-23 Caeredin

Toby Faletau Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Caeredin wedi ennill eu gêm gyntaf oddi cartref yn y Pro12 y tymor hwn wedi iddyn nhw guro'r Dreigiau nos Iau.

Aeth Willem Nel a Matt Scott dros y linell i'r ymwelwyr, i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghasnewydd ers 2006.

Ciciodd Jack Cuthbert 13 o bwyntiau i Gaeredin, tra bod maswr y Dreigiau, Jason Tovey wedi cicio 14 o bwyntiau i'r tîm cartref.

Daeth Ross Wardle ymlaen i'r cae a sgorio cais hwyr i'r Dreigiau, a llwyddodd y tîm cartref i roi pwysau mawr ar Gaeredin erbyn diwedd y gêm.

Gêm gicio

Y Dreigiau aeth ar y blaen yn gynnar yn y gêm, wrth i Tovey gicio'r cyntaf o bedwar cic cosb.

Daeth y cyfle cyntaf i'r asgellwr Hallam Amos, ond llwyddodd Sam Hidalgo-Clyne i wneud tacl hollbwysig ac atal cais cyntaf y noson.

Ciciodd Cuthbert ei gic cosb cyntaf yn fuan wedyn, cyn i Nel sgorio cais yn dilyn rhediad gwych Andries Strauss.

Daeth cais arall gan Scott yn fuan wedyn, i ymestyn sgor yr ymwelwyr.

Daeth y Dreigiau yn ôl yn gryf yn hwyr, a hynny yn erbyn 14 dyn Caeredin yn dilyn cerdyn melyn i'r clo Izak van der Westhuizen, ac aeth Wardle drosodd i roi gobaith i'r tîm cartref.

Cafodd y Dreigiau tri sgrym yn agos i linnell Caeredin a gallai cais wedi bod yn un fuddugol.

Ond llwyddodd tîm Alan Solomons i amddiffyn yn gryf i sicrhau eu hail buddugoliaeth yn 2014.

Dreigiau 19-23 Caeredin

Dreigiau: Dan Evans; Tom Prydie, Pat Leach, Jack Dixon, Hallam Amos; Jason Tovey, Richie Rees; Phil Price, Elliot Dee, Duncan Bell, Andrew Coombs (capt), Matthew Screech, Lewis Evans, Taulupe Faletau, Nic Cudd.

Eilyddion: Sam Parry, Owen Evans, Bruce Douglas, Cory Hill, Jevon Groves, Wayne Evans, Ross Wardle, Will Harries.

Caeredin: Jack Cuthbert; Sam Hidalgo-Clyne, Matt Scott, Andries Strauss, Tom Brown; Harry Leonard, Grayson Hart; Alasdair Dickinson, Ross Ford, Willem Nel, Grant Gilchrist, Izak van der Westhuizen, Mike Coman (capt), Cornell Du Preez, David Denton.

Eilyddion: James Hilterbrand, Wicus Blaauw, Simon Berghan, Ollie Atkins, Roddy Grant, Sean Kennedy, Carl Bezuidenhout, Sam Beard.

Straeon perthnasol