Newid enw swyddogol y Cynulliad?

Cynulliad
Image caption Mae Plaid Cymru eisiau enw'r Cynulliad gael ei newid i 'Senedd Cymru'

Mae Plaid Cymru yn gobeithio gorfodi pleidlais yn San Steffan i newid enw'r Cynulliad i 'Senedd Cymru'.

Mae'r blaid wedi cyflwyno gwelliant i Fesur Cymru sydd ar ei ffordd drwy'r Ty Cyffredin ar hyn o bryd.

Nid yw'r gwelliant yn debygol o gael cefnogaeth llywodraeth y DU, ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi cefnogi'r syniad yn y gorffennol.

Mae'r gwelliant yn dweud y dylai enw'r Cynulliad newid i Senedd Cenedlaethol Cymru, neu National Parliament of Wales.

Dywedodd arweinydd y blaid yn San Steffan, Elfyn Llwyd: "Byddai'r gwelliant yma, os caiff ei basio, yn gorfodi newid syml - i newid enw'r Cynulliad i Senedd Cenedlaethol Cymru.

"Mae Mesur Cymru eisoes yn rhoi cyfle i newid enw Llywodraeth Cynulliad Cymru i Llywodraeth Cymru yn swyddogol.

"Dydy hi ond yn gywir bod enw'r sefydliad hefyd yn adlewyrchu ei staws fel corff sy'n creu deddfau, fel y mae hi ers refferendwm ar bwerau pellach yn 2011.

"Mae arweinwyr y pleidiau eraill yng Nghymru eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i'r newid yma.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd ein gwelliant syml a synnwyr cyffredin yn denu eu cefnogaeth nhw a'u pleidiau."

Straeon perthnasol