Merched Twrci 1-5 Merched Cymru

Jess Fishlock Image copyright Asiantaeth Luniau Huw Evans
Image caption Sgoriodd Jess Fishlock dair gôl yn erbyn Twrci

Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi curo Twrci 5-1 yn eu gêm ragbrofol Cwpan y Byd ddydd Gwener.

Mae'r tîm wedi ennill tair o'u pedair gêm wrth anelu at gyrraedd y rowndiau terfynol yng Nghanada yn 2015.

Ar ôl y fuddugolaeth gyfforddus yn erbyn Twrci yn Stadiwm Ataturk, Eskisehir, bydd Cymru'n chwarae yn erbyn yr Wcráin wythnos nesaf ym Mharc y Scarlets.

Cyn y gêm ddydd Gwener roedd Cymru wedi curo Montenegro 3-0, a Belarus 1-0. Fe gollodd Cymru 2-0 yn erbyn Lloegr ym Millwall fis Hydref y llynedd.

Sgoriodd y capten Jess Fishlock dair gôl yn ystod y fuddugoliaeth ddydd Gwener.