Y Gwyll yn arwain enillwyr Gŵyl Cyfryngau Celtaidd

Y Gwyll
Image caption Mae Y Gwyll/Hinterland wedi ei ffilmio yn ardal Aberystwyth

Mae nifer o raglenni teledu a radio o Gymru wedi ennill gwobrau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

Cyfres dditectif Y Gwyll/Hinterland gafodd ei enwi fel y gyfres ddrama orau yn yr ŵyl yn St Ives, Cernyw.

Dyma'r drydedd wobr i raglenni S4C eleni.

Yn gynharach yn yr wŷl daeth y ffilm ddogfen Gerallt i'r brig yn y categori celfyddydau, a'r gyfres ddogfen i bobl ifanc #FI enillodd yn y categori plant.

Yng nghategori chwaraeon radio, sylwebaeth Gareth Charles ar raglen BBC Radio Cymru, Taith y Llewod: Prawf Olaf enillodd y wobr.

Mae Y Gwyll/Hinterland yn gynhyrchiad Fiction Factory mewn cydweithrediad â S4C, Tinopolis, BBC Cymru Wales, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac All3Media International Ltd.

Dywedodd Gethin Scourfield, ar ran y tîm cynhyrchu yn Fiction Factory: "Rwy'n falch iawn o ennill y wobr hon o ystyried y gystadleuaeth gref.

"Mae pawb wedi gweithio yn ofnadwy o galed.

"Ond byddai ddim yn bosib heb groeso a chydweithrediad pobl Aberystwyth a'r ardal.

"Edrych ymlaen at y gyfres nesa!"

Mewn datganiad, dywedodd BBC Cymru ac S4C y bydd gwaith ffilmio ail gyfres Y Gwyll/Hinterland yn dechrau ym mis Medi.

Meddai Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd: "O'r dechrau roeddem yn gywbod bod Y Gwyll/Hinterland yn brosiect arbennig, ac mae'r gyfres wedi dal dychymyg y gwylwyr yng Nghymru a thu hwnt."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.