Ffrae am sesiynau hyfforddiant

Disgybl wrth ei waith
Image caption Mae disgwyl i ysgolion fabwysiadu fframwaith newydd ar gyfer dysgu llythrennedd a rhifedd

Mae nifer o benaethiaid ysgolion cynradd yng Ngwynedd wedi gwrthod mynychu sesiynau hyfforddiant ar gyfer cyflwyno llythrennedd a rhifedd am fod y cyflwyniadau yn uniaith Saesneg.

Mae Ffederasiwn Penaethiaid Ysgolion Gwynedd wedi anfon cwyn at Gomisiynydd y Gymraeg. Maen nhw hefyd wedi anfon llythyr at y prif weinidog Carwyn Jones, sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, a'r gweinidog Addysg Huw Lewis

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr holl adnoddau a deunyddiau ar gyfer yr hyfforddiant ar gael yn Gymraeg.

Ers mis Medi y llynedd mae disgwyl i ysgolion Cymru fabwysiadu fframwaith newydd ar gyfer dysgu llythrennedd a rhifedd.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu rhaglen Gefnogi Genedlaethol i gynorthwyo ysgolion yn y gwaith.

Mae cwmni sydd a'i bencadlys yn ne Lloegr wedi eu cyflogi i ddarparu'r hyfforddiant drwy gynnal sesiynau hyfforddi ledled Cymru.

Cwyno wrth y Prif Weinidog

Ddoe (dydd Mercher) cafodd sesiwn ei gynnal ym Mhorthmadog ond fe wnaeth nifer o benaethiaid wrthod mynd i'r sesiwn gan y byddai'r cyflwyniad yn Saesneg.

Mae Ffederasiwn Penaethiaid Ysgolion Gwynedd wedi anfon llythyrau at y Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, i dynnu sylw at y sefyllfa ac maen nhw wedi cwyno wrth y prif Weinidog Carwyn Jones a'r Gweinidog Addysg Huw Lewis.

Dywedodd, Cai Larsen, Cadeirydd Ffederasiwn Penaethiaid Ysgolion Gwynedd: "Mae o wedi hen sefydlu yn y gogledd orllewin bod cyrsiau yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg a pan oedd y cyngor sir yn cynnal y sesiynau roedd yr egwyddor yn cael ei pharchu. Mae o fel bod yr egwyddor yna wedi cael ei anghofio i raddau helaeth.

"Mae'n fwy anodd cael cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Da ni wedi penderfynu sgwennu at y gweinidog a'r comisiynydd iaith i ddatgan ein hanfodlonrwydd. Nid ydym wedi rhoi cyfarwyddyd i bobl beidio mynd, mae hynny fyny i'r unigolion."

Adnoddau yn ddwyieithog

Mae rhai o lywodraethwyr yr ysgolion wedi cefnogi safiad y penaethiaid sydd wedi gwrthod mynd i'r sesiwn hyfforddi, yn eu plith Sian Parry sy'n llywodraethwr yn ysgol Tudweiliog.

"Da ni'n cefnogi'r safiad yn gadarn iawn. Mi roedd yna gyfarfod llywodraethwyr yn Nhudweiliog dwy noson yn ôl ac mi roedd y llywodraethwyr wedi dychryn fod y cwrs yn cael ei gynnig yn uniaith Saesneg."

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn anghytuno'n gryf gydag unrhyw honiad o ddiffyg darpariaeth Cymraeg.

"Mae'r holl adnoddau a deunyddiau ar gael yn ddwyieithog yn ogystal â'r cyflwyniadau gweledol,"meddai'r llefarydd.

"Mae yna hefyd gyfieithu ar y pryd ar gyfer cwestiynau a chyfraniadau o'r llawr."

Dywedodd fod y sesiwn ym Mhorthmadog wedi cael ei gyflwyno a'r trafodaethau yn cael eu hwyluso trwy gyfrwng y Gymraeg gan Anna Brychan, arweinydd y Rhaglen Gefnogi Genedlaethol.

Mae'r datganiad yn nodi fod y digwyddiadau yma wedi'u cynllunio er mwyn cefnogi arweinyddion ysgol i gyfnerthu llythrennedd a rhifedd yn eu hysgolion sy'n sgiliau allweddol bywyd.

"Rydym eisiau dysgu gan y gorau meddai'r llefarydd ac weithiau mae hynny'n golygu edrych y tu allan i Gymru. Er enghraifft, un arbenigwr o Loegr ac un arall o Serbia sy'n rhannu eu harbenigrwydd yn y digwyddiadau yma ac maen nhw'n gwneud hynny drwy gyfrwng y Saesneg.

"Fe fyddai'n annheg disgwyl iddynt wneud mewn unrhyw ffordd arall."

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd y Gymraeg nad ydi hi wedi derbyn cwyn hyd yma ond y byddai'n cysylltu â'r Llywodraeth i ofyn am eglurhad.