Merched Cymru 1-1 Merched Wcráin

Bu'n rhaid i dîm Merched Cymru fodloni ar gem gyfartal yn erbyn y Wcráin yn grŵp 6 yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen ar ôl dim ond saith munud ar Barc y Scarlets, peniad Olga Boychenko.

Brwydrodd Cymru yn ôl, gyda Natasha Harding, ymosodwr gydag Academi Bryste yn ergydio o ddeg llath gyda 13 munud yn weddill.

Mae'r canlyniad yn gadael Cymru yn ail yn y grŵp y tu ôl i Loegr.

Mae Wcráin yn drydydd ond gyda dwy gem mewn llaw.